Parc Cenedlaethol Gorkhi-Terelj

Un o barciau cenedlaethol Mongolia yw Parc Cenedlaethol Gorkhi-Terelj (Mongoleg: Горхи-Тэрэлж, "rhododendron y nant"). Mae'n gorwedd ym Mynyddoedd Kentii tua 40–50 km o Ulan Bator. Llifa Afon Tuul drwy'r parc. Gerllaw mae mynydd sanctaidd Burkhan Khaldun, a gysylltir â Genghis Khan.

Golygfa ym Mharc Cenedlaethol Gorkhi-Terelj

Mae atyniadau yn cynnwys Llyn Khagiin Khar a Ffynhonnau Poeth Yestii. Ceir yn ogystal fynachlog Fwdhaidd sydd ar agor i ymwelwyr. Mae bywyd gwyllt y parc yn cynnwys eirth brown a thros 250 rhywogaeth o adar. Ceir sawl craig drawiadol yno, yn cynnwys "Craig y Crwban" (Mongoleg: Melkhii Khad) a'r "Lama yn gweddio".

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fongolia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato