Parc Coffa Šumarice

Crëwyd Parc Coffa Šumarice (Serbeg: Меморијални парк Шумарице) ar safle ger Kragujevac, Serbia lle dienyddwyd tua 7,000 o ddynion a bechgyn y dref honno gan luoedd yr Almaen Natsïaidd yn Iwgoslafia ar yr 21ain o Hydref, 1941, yn yr Ail Ryfel Byd. Cymerodd y ffasgwyr "bob gwryw o'r dref rhwng 16 a 60 oed a'u cynullo mewn un lle ac wedyn dewiswyd y dioddefwyr -- yn cynnwys myfyrwyr ysgol uwchradd -- o'u plith i'w llofruddio."[1] Llofruddwyd cant o bobl am bob un milwr Almaenig a laddwyd mewn sgarmes gyda'r gwladgarwyr Serbaidd gwrth-ffasgaidd.

Cofeb poen a herfeiddiad ar stamp o Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, 1967

Ceir sawl cofeb yn y parc yn cynnwys y gofeb i'r plant ysgol llofruddiedig a'u hathrawon (Cofeb "yr Ehediad a atalwyd"), y "Gofeb poen a herfeiddiad", y gofeb "Cant am Un", y gofeb "Gwrthsafiad a Rhyddid".

Ceir yr Amgueddfa Hil-laddiad ar leoliad y gyflafan.

Cyfeiriadau golygu

  1. Philip. J. Cohen, Serbia's Secret War, t.38

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: