Record unigol electronig ar gyfer chwaraewyr proffesiynol yw pasbort biolegol, neu pasbort chwaraewr. Cedwir ynddi broffilau gwaed a chanlyniadau pob prawf cyffuriau dros gyfnod. Gellir canfod troseddau amhureddu drwy nodi'r amrywiaethau rhwng canlyniad prawf a lefelau sydd wedi cael eu sefydlu fel rhai arferol ar gyfer yr unigolyn, yn hytrach na phrofi er mwyn canfod olion sylweddau anghyfreithlon yn unig.[1]

Er bod y cysyniad o basbort chwaraewr yn un diweddar, mae cryn hanes o'r defnydd o nodwyr biolegol amhureddu mewn chwaraeon. Dyma'r nodwr cyntaf o amhureddu efallai, sydd ddim yn seiliedig ar bresenoldeb cyffur yn yr wrin neu'r gwaed, ond yn canfod tystiolaeth o amhureddu drwy ddatgelu gwyriadau, sydd wedi eu achosi gan gyffuriau, yn y paramedrau biolegol, megis y gymhareb o testosteron dros epitestosteron (T/E). Mae'r T/E wedi cael ei ddefnyddio gan awdurdodau chwaraeon ers cychwyn yr 1980au i ddatgelu steroidau anabolig mewn samplau wrin. Degawd yn ddiweddarach, ym 1997, cyflwynwyd nodwyr ar gyfer amhureddu gwaed gan rai ffederasiynnau rhyngwladol megis yr Union Cycliste Internationale a'r Federation Internationale de Ski, er mwyn atal y cam-ddefnydd o erythropoietin ailgyfuniadol nad oedd yn gallu cael ei ddatgelu'n uniongyrchol ar y pryd. Dim ond ers 2002 mae'r term pasbort wedi cael ei ddefyddio am yr arfer. Mae'r manteision o'r ffurf yma o brofi wedi cael eu nodi mewn llenyddiaeth wyddonol[2] ac mae'r term pasbort chwaraewr wedi cael ei fabwysiadu gan y World Anti-Doping Agency.[3]

Cred nifer fod y pasbort chwaraewyr yn darparu dewis amgen gwych er mwyn cadarhau tegwch mewn chwraeon elit. Tra bod rhaid datblygu prawf cyffuriau newydd ar gyfer pob cyffur newydd, prif fantais y pasbort yw bod ffisioleg dynol yn sefydlog. Cynhyrchir cyffuriau newydd ar raddfa digynsail, ac mae'n aml blynyddoedd cyn y bydd prawf dibynadwy ar gael. I'r gwrthwyneb, mae'r ffisioleg yn aros yn un fath a bydd y bio-nodwyr sy'n cael eu datblygu heddiw yn ddilys am sawl degawd. Er enghraifft, mae'r modiwl gwaed o'r pasbort eisoes yn gallu datgelu'r ffurfiau mwyaf newydd o erythropoietin ailgyfuniadol, yn ogystal ag unrhyw ffurfiau a fydd yn cael eu cynhyrchu yn y dyfodol. Mae hefyd yn gallu datgelu unrhyw ffurf o amhureddu genyn a fuasai'n gwella'r trosglwyddiad o ocsigen i'r cyhyrau. Tra bod prawf cyffuriau negyddol ddim o angenrheidrwydd yn profi nad yw'r chwaraewr wedi amhureddu, gall y chwaraewr ddangos ei basbort ar gychwyn unrhyw gystadleuaeth er mwyn profi eu bod yn cystadlu yn ei gyflwr naturiol.

Yn seiclo, sefydlwyd y pasbort biolegol ar ddechrau tymor rasio 2008 gan yr Union Cycliste Internationale. Ym mis Mai 2008, datganodd yr UCI fod 23 o reidwyr yn cael eu drwgdybio, yn dilyn y cyfnod cyntaf o gymryd arbrofion gwaed, o dan y pasbort biolegol newydd.[4] Daeth y pasbort yn bwysicach fyth yn 2010, gyda dyfodiad cyffuriau wedi eu dylunio megis erythropoietin ailgyfuniadol[5] a steroidau anabolig, sydd â'r un strwythur molecyddol a'r cemegion hynny a gynhyrchir yn naturiol gan y corff.

Amcan modiwl gwaed y pasbort yw datgelu unrhyw fath o amhureddu gwaed, y modiwl steroid, unrhyw ffurf o amhureddu gyda steroidau anabolig, a'r modiwl endocrinaidd, unrhyw newid yn y hormon tŵf/echelin IGF-1. Ond, mae'r amryw fodiwlau mewn safle gwahanol ar hyd y broses o ddatblygu, dilysu a gweithrediad mewn chwaraeon.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Information on the biological passport. UCI.
  2.  Ashenden M.. A strategy to detect doping in sports. Haematologica.
  3.  Q-A on the athlete passport. World Anti-Doping Agency.
  4.  Richard Moore (2008-05-03). Blood tests cast doubt on 23 riders. The Guardian.
  5.  Glycosylation-modified erythropoietin.