Pashto yw iaith y Pathaniaid, grŵp ethnig sy'n byw yn Affganistan a rhannau o ogledd-orllewin Pacistan. Mae'n perthyn i gangen Iranaidd y teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Mae Pashto yn un o ddwy iaith swyddogol Affganistan, ynghyd â Dari.

Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Pashto Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

Rhennir yr iaith Pashto yn ddwy brif gangen neu dafodiaith, sef Pashto yn Affganistan a 'Pakhto' ym Mhacistan. Ysgrifennir y ddwy ddafodiaith fel ei gilydd mewn gwyddor sy'n addasiad o'r wyddor Arabeg.

Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Affganistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.