Patagonia (ffilm)

Ffilm ddrama o 2010, yw Patagonia, sydd yn ymwneud â'r Wladfa ym Mhatagonia. Mae'n serennu Matthew Rhys a'r gantores Duffy a chyfarwyddwyd gan y cyfarwyddwr Cymreig, Marc Evans. Dangoswyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Seattle ar 10 Mehefin 2010, ac am y tro cyntaf yng Nghymru ar 4 Mawrth 2011 yng Nghaerdydd.[1]

Patagonia

Poster hybu'r ffilm
Cyfarwyddwr Marc Evans
Cynhyrchydd Flora Fernandez-Marengo
Rebekah Gilbertson
Huw Eurig Davies
Ysgrifennwr Laurence Coriat
Marc Evans
Serennu Matthew Rhys
Duffy
Sinematograffeg Robbie Ryan
Golygydd Mali Evans
Dylunio
Dyddiad rhyddhau 10 Mehefin 2010 - UDA
4 Mawrth 2011 - DU
Gwlad Yr Ariannin
Cymru
Iaith Cymraeg
Sbaeneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Plot golygu

Mae Gwen a'i gŵr Rhys sydd yn byw yng Nghaerdydd, yn ceisio rhoi eu problemau ffrwythlonaeth y tu ôl iddynt ac achub eu perthynas pan maent yn canfod eu hunain yn teithio i Batagonia ar gyfer lleoliad ffotograffeg Rhys yno. Wrth i Rhys dreulio ei amser yn cymryd lluniau ar gyfer ei waith, mae Gwen a Mateo yn agosau, nes fod gandynt deimladau rhamantus am eu gilydd. Mae'r ffilm yn dilyn perthynas Gwen a Mateo, sydd yn arwain at y penderfyniad mawr sydd ganddi i'w wneud i aros yn y Wladfa gyda Mateo neu mynd adref i Gaerdydd gyda Rhys. Yn y cyfamser, mae'r Archentwraig-Cymreig Cerys yn cynllunio taith i Gymru i ganfod hen fferm ei theulu cyn iddynt ymfudo i Batagonia. Mae'n penderfynu mynd a'i chymydog Alejandro gyda hi fel chaperone, ac yng Nghymru mae ef yn canfod serch gyda merch lleol, Sissy.[2] Wrth ddod i derfyn eu taith, mae Cerys ac Alejandro yn darganfod fod Nant Briallu, sef hen fferm ei theulu yng Nghymru, yn un o'r ffermydd gafodd eu boddi yn ardal Tryweryn yn 1955. Mae'r ffilm yn diweddu wrth i Cerys farw, ond mae'n farwolaeth heddychlon gan ei bod wedi cael rhyddhad o wybod y gwirionedd.

Cast golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Hannah Waldram (8 Mawrth 2011). Patagonia - Cardiff film locations. Guardian Cardiff.
  2.  Patagonia.

Dolenni allanol golygu