Patricia Neal

actores a aned yn 1926

Actores Americanaidd oedd Patricia Neal (20 Ionawr 19268 Awst 2010), sydd wedi ennill nifer o wobrau am actio ar y llwyfan ac ar y sgrîn.

Patricia Neal
Patricia Neal yn 1954, llun gan Carl Van Vechten
GanwydPatsy Louise Neal Edit this on Wikidata
20 Ionawr 1926 Edit this on Wikidata
Packard Edit this on Wikidata
Bu farw8 Awst 2010 Edit this on Wikidata
Edgartown, Massachusetts Edit this on Wikidata
Man preswylEdgartown, Massachusetts Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Northwestern
  • Prifysgol Northwestern mewn Cyfathrebu
  • Knoxville High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, actor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodRoald Dahl Edit this on Wikidata
PlantLucy Dahl, Ophelia Dahl, Tessa Dahl, Olivia Dahl, Theo Dahl Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Golden Globe Award for Best Actress – Television Series Drama, Gwobrau Donaldson Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Patsy Louise Neal yn Packard, Whitley County, Kentucky. Magwyd hi yn Knoxville, Tennessee, ac astudiodd drama ym Mhrifysgol Northwestern. Ar ôl symud i Efrog Newydd, cafodd ei swydd gyntaf fel dirprwy actor yng nghynhyrchiad Broadway o The Voice of the Turtle. Yn fuan wedyn, ymddangosodd yn Another Part of the Forest (1946), gan ennill Gwobr Tony yr Actores Orau mewn Drama. Ymddangosodd hefyd yn adfywiad 1952 o ddrama The Children's Hour a The Miracle Worker (1959).

 
Neal yn ffilm The Fountainhead (1949)

Ymddangosodd Neal mewn ffilm am y tro cyntaf ym 1948, yn John Loves Mary. Ymddangosodd yn ffilm The Fountainhead yr un flwyddyn gan gyd-serennu â'i chariad, Gary Cooper, a oedd yn briod ar y pryd; roedd ef yn 46 a hithau'n 21. Erbyn 1950, roedd gwraig Cooper, Veronica, wedi cael gwybod am y berthynas ac wedi anfon telegram at Neal yn mynnu eu bod yn dod a'r berthynas i ben. Beichiogodd Neal gan Cooper, ond perswadiodd ef iddi gael erthyliad,[1] teimlodd Neal yn euog am wneud hyn am flynyddoedd wedyn. Daeth y berthynas i ben, ond dim ond ar ôl i ferch Cooper, Maria (Maria Cooper Janis erbyn hyn, ganwyd 1937), boeri ati yn gyhoeddus. Blynyddoedd wedi marwolaeth Cooper, ailgymododd Maria a'i mam Veronica gyda Patricia Neal.

Cyfarfodd Neal yr awdur Prydeinig, Roald Dahl, mewn parti cinio a gynhaliwyd gan Lillian Hellman ym 1951. Priododd y pâr ar 2 Gorffennaf 1953, yn Eglwys y Drindod, Efrog Newydd. Cawsant bump o blant: Olivia Twenty (20 Ebrill 1955 – 17 Tachwedd 1962), a bu farw o measles encephalitis; Chantal Tessa Sophia; Theo Matthew (ganwyd 1960); Ophelia Magdalena; a Lucy Neal (ganwyd 1965).

Gweithiau golygu

Ffilm golygu

Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau
1949 John Loves Mary Mary McKinley
The Fountainhead Dominique Francon
It's a Great Feeling Ei hun cameo
The Hasty Heart Sister Parker
1950 Bright Leaf Margaret Jane Singleton
The Breaking Point Leona Charles
Three Secrets Phyllis Horn
1951 Operation Pacific Lt. (j.g.) Mary Stuart
Raton Pass Ann Challon
The Day the Earth Stood Still Helen Benson
Week-End with Father Jean Bowen
1952 Diplomatic Courier Joan Ross
Washington Story Alice Kingsley
Something for the Birds Anne Richards
1954 Your Woman Contessa Germana de Torri
Stranger from Venus Susan North
1957 A Face in the Crowd Marcia Jeffries
1961 Breakfast at Tiffany's 2-E (Mrs. Failenson)
1963 Hud Alma Brown Gwobr Academi Actores Gorau; Gwobr BAFTA Award; Nomineiddwyd - Golden Globe
1964 Psyche '59 Alison Crawford
1965 In Harm's Way Lt. Maggie Haynes Gwobr BAFTA
1968 Pat Neal Is Back Ei hun Pwnc byr
The Subject Was Roses Nettie Cleary Nomineiddwyd - Gwobr Academi Actores Gorau
1971 The Night Digger Maura Prince
1973 Baxter! Dr. Roberta Clemm
Happy Mother's Day, Love George Cara
1975 B Must Die Julia
1977 Widow's Nest Lupe
1979 The Passage Mrs. Bergson
1979 All Quiet on the Western Front Paul's Mother
1981 Ghost Story Stella Hawthorne
1989 An Unremarkable Life Frances McEllany
1991 Preminger: Anatomy of a Filmmaker Ei hun Ffilm ddogfen
1999 Cookie's Fortune Jewel Mae 'Cookie' Orcutt
From Russia to Hollywood: The 100-Year Odyssey of Chekhov and Shdanoff Ei hun Ffilm ddogfen
2000 For the Love of May Grammy May Pwnc byr
2003 Broadway: The Golden Age, by the Legends Who Were There Ei hun Ffilm ddogfen
Bright Leaves Ei hun Ffilm ddogfen
2008 Shattered Glory Mrs. Wyatt cyn-gynhyrchu
2009 Flying By Margie ffilmio

Teledu golygu

  • Strindberg on Love (1960)
  • Special for Women: Mother and Daughter (1961)
  • The Homecoming: A Christmas Story (1971)
  • Things in Their Season (1974)
  • Eric (1975)
  • Tail Gunner Joe (1977)
  • A Love Affair: The Eleanor and Lou Gehrig Story (1978)
  • The Bastard (1978) (miniseries)
  • All Quiet on the Western Front (1979)
  • The Patricia Neal Story (1981) (cameo)
  • Love Leads the Way: A True Story (1984)
  • Glitter (1984) (pilot ar gyfer y gyfres)
  • Shattered Vows (1984)
  • Caroline? (1990)
  • A Mother's Right: The Elizabeth Morgan Story (1992)
  • Heidi (1993)

Cyfeiriadau golygu