Gwleidydd o'r Alban yw Paul Monaghan (ganwyd 11 Tachwedd 1966) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Caithness, Sutherland ac Easter Ross; mae'r etholaeth yn Ucheldir yr Alban, yr Alban. Cynrychiola Blaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Paul Monaghan

Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd John Thurso
Olynydd Jamie Stone

Geni (1966-11-11) 11 Tachwedd 1966 (57 oed)
Montrose, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Caithness, Sutherland ac Easter Ross
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Priod Stephanie Anderson
Plant Sian Anderson
Alma mater Prifysgol Stirling
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Fe'i ganed ym Montrose cyn symud gyda'i deulu i Inverness, yn ddwy oed. Derbyniodd Radd Cyntaf gydag anrhydedd ym Mhrifysgol Sterling am waith ar Gymdeithaseg a Seicoleg, cyn cwbwlhau Doethuriaeth mewn Polisiau Cymdeithasol. Mae'n aelod o Gymdeithas Seicoleg Prydain a Chymrawd o Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Institute of Leadership and Management).[1].

Monaghan oedd sefydlydd ymgyrch Ucheldir yr Alban dros Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014. Ar hyn o bryd mae'n byw yn Contin, Swydd Ross gyda'i deulu. Bu'n aelod o'r SNP er 1994.

Etholiad 2015 golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Paul Monaghan 15831 o bleidleisiau, sef 46.3% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +27.1 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 3,844 pleidlais.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Munro, Ally (8 Mai 2015). "SNP win Caithness, Sutherland and Easter Ross". The Scotsman. Johnston Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 9 Mai 2015.
  2. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  3. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban