Gwleidydd Cymreig yw Paul Peter Murphy (ganwyd 25 Tachwedd 1948). Bu'n cynrychioli etholaeth Torfaen dros y Blaid Lafur o 1987 i 2015 ac wedi dal swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru (o 24 Ionawr 2008 hyd 5 Mehefin 2009). Bu'n weinidog gwladol yn Swyddfa Gogledd Iwerddon o 1997 tan 1999 ac Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon o 24 Hydref 2002 tan 5 Mai 2005. Mae wedi dal swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru unwaith o'r blaen, am dair blynedd a hanner o 28 Gorffennaf 1999 tan 23 Hydref 2002. Mae'n aelod o Gyngor Polisi Cyfeillion Llafur Israel.

Y Gwir Anrhydeddus
Paul Murphy AS
Paul Murphy


Cyfnod yn y swydd
24 Ionawr 2008 – 5 Mehefin 2009
Rhagflaenydd Peter Hain
Olynydd Peter Hain
Cyfnod yn y swydd
28 Gorffennaf 1999 – 24 Hydref 2002
Rhagflaenydd Alun Michael
Olynydd Peter Hain

Cyfnod yn y swydd
24 Hydref 2002 – 6 Mai 2005
Rhagflaenydd John Reid
Olynydd Peter Hain

Geni 25 Tachwedd 1948
Etholaeth Torfaen
Plaid wleidyddol Llafur
Crefydd Catholig Rufeinig

Cafodd ei addysg yn West Monmouth School ym Mhont-y-pŵl ac yng Ngholeg Oriel, Rhydychen. Cyn dod yn aelod seneddol roedd yn ddarlithydd mewn hanes yn Ngholeg Gwent.

Dolen allanol golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Leo Abse
Aelod Seneddol dros Dorfaen
19872015
Olynydd:
Nicklaus Thomas-Symonds
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Alun Michael
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
28 Gorffennaf 199924 Hydref 2002
Olynydd:
Peter Hain
Rhagflaenydd:
John Reid
Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon
24 Hydref 20026 Mai 2005
Olynydd:
Peter Hain
Rhagflaenydd:
Peter Hain
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
24 Ionawr 20085 Mehefin 2009
Olynydd:
Peter Hain