Paul Sein Twa

ymgyrchydd amgylcheddol

Mae Paul Sein Twa yn ymgyrchwr amgylcheddol yn y Karen yn ne-ddwyrain Myanmar. Enillodd Wobr Amgylcheddol Goldman 2020. Mae'n perthyn i'r bobl a elwir yn Karen, sy'n siarad iaith Sino-Tibet ac sydd ers blynyddoedd wedi ymladd am eu hannibyniaeth oddi wrth Myanmar.[1][2][3][4]

Paul Sein Twa
Paul Sein Twa yn 2020
Ganwydc. 1973 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Myanmar Myanmar
Galwedigaethamgylcheddwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Amgylchedd Goldman Edit this on Wikidata

Yn 2018, cyd-sefydlodd Barc Heddwch Salween (Salween Peace Park)[5][6][7][8] a bu'n gadeirydd 'Cyngor Asia', fforwm ar draws y cyfandir i fynd i'r afael â phroblemau Asia a meithrin cydweithrediad ymhlith gwledydd Asia. Mae gan y cyngor ei bencadlys yn Tokyo a chyfarwyddiaethau rhanbarthol yn Doha, Chengdu a Bangkok.[9][10][11][12]

Dywedodd yn Nhachwedd 2020:[13]:

Mae'n rhaid i ni warchod ein ffiniau, i sicrhau ein hawliau diwylliannol - yr hawl i barhad ein diwylliant, ac i'n adnoddau naturiol. Gan ein bod yn ddibynnol ar ecosystemau'r Ddaear, yna, o golli'r adnoddau naturiol, fe gollwn ei diwylliant hefyd. Mae'r ddau beth law yn llaw. Mae na 125 math o degeirianau yma yn y Parc Heddwch yma, sy'n 1.35 miliwn o erwau, ac mae rhai ohonyn nhw'n brin iawn. Mae ein dull traddodiadol o ffermio yn parchu cyfoeth yr amrywiaeth naturiol.

Gwobr Goldman golygu

Yn ôl rhoddwyr Gwobr Goldman, "Mae basn Afon Salween yn barth bioamrywiaeth o bwys ac yn gartref i bobl frodorol Karen, sydd wedi ceisio hunanbenderfyniad a goroesiad diwylliannol ers amser maith. Mae'r parc newydd yn cynrychioli buddugoliaeth fawr dros heddwch a chadwraeth ym Myanmar."

Cyfeiriadau golygu

  1. "Paul Sein Twa". Goldman Environmental Foundation (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-24.
  2. "Saw Paul Sein Twa Wins Goldman Environmental Prize". Karen News (yn Saesneg). 2020-12-01. Cyrchwyd 2021-04-26.
  3. "Myanmar: Land rights defender Paul Sein Twa wins 2020 Goldman Environmental Prize for Asia". Business & Human Rights Resource Centre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-26.
  4. "Myanmar's Paul Sein Twa receives Goldman Environmental Prize 2020" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-26.
  5. "A Visit with Conservationist and Indigenous Karen Leader Paul Sein Twa". Goldman Environmental Foundation (yn Saesneg). 2021-03-31. Cyrchwyd 2021-04-24.
  6. "Prize-winning Myanmarese activist Paul Sein Twa on a park for peace -". Oasis_KrASIA (yn Saesneg). 2021-01-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-25. Cyrchwyd 2021-04-24.
  7. "Paul Sein Twa, co-founder of KESAN and Salween Peace Park in Myanmar, receives Goldman Environmental Prize 2020". IUCN (yn Saesneg). 2020-12-04. Cyrchwyd 2021-04-26.
  8. "In Myanmar, Paul Sein Twa Helps Establish a Peace Park". Sierra Club (yn Saesneg). 2020-11-26. Cyrchwyd 2021-04-26.
  9. "Asia Council meet for exploring new pathways". Cross Town News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-23. Cyrchwyd 2 April 2017.
  10. "The 'One Asia' Momentum". Huffington Post (US Edition). 7 Mawrth 2014. Cyrchwyd 20 Hydref 2017.
  11. "Asia Council opens top university fellowships for Nepali students". Kantipath News, Kathmandu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-07. Cyrchwyd 30 Mawrth 2017.
  12. "ICCA Consortium". ICCA Consortium (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-26.
  13. Fideo ohono'n siarad ar YouTube; adalwyd 29 Ebrill 2021