Peblig

sant Cymreig (4g) a mab Macsen Wledig

Sant cynnar oedd Peblig (Lladin, Publicius) (fl. diwedd y 4g - dechrau'r 5g OC). Yn ôl traddodiad roedd yn un o feibion yr ymerawdwr Rhufeinig Macsen Wledig ac Elen Luyddog ferch Eudaf.[1]

Peblig
Darlun posibl o Beblig yn Llyfr Oriau Llanbeblig
Ganwyd380 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farwCaernarfon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Dydd gŵyl3 Gorffennaf Edit this on Wikidata
TadMacsen Wledig Edit this on Wikidata
MamSantes Elen Luyddog Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad golygu

Yn ôl traddodiad roedd Peblig yn frawd i Owain fab Macsen Wledig a Cystennin (Constantinus). Cyfeiria Nennius (9g) at fedd Cystennin yng "Nghaer Seint".[2] Trosglwyddwyd y gistfaen i eglwys Llanbeblig ar orchymyn Edward I o Loegr yn 1283.

Cysegrir eglwys Llanbeblig, ger caer Rufeinig Segontium (Caernarfon) i Beblig. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith fod ei enw yn Gymreigiad o'r enw personol Lladin Publicius, yn tueddu i gadarnhau'r cysylltiad Rhufeinig er na ellir profi ei fod yn fab i Elen a Macsen.

Dethlir gwylmabsant Peblig ar 3 Gorffennaf.

Cyfeiriadau golygu

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000).
  2. Arthur Morris (gol.), Nennius (Phillimore, 1980), pen. 25.

Gweler hefyd golygu