Pedr a'r Blaidd

stori dylwyth teg symffonig i blant gan Sergei Prokofiev

Mae Pedr a'r Blaidd (Rwseg: «Петя и волк», "Pétya i volk", IPA: [pʲetʲə i volk]) Op. 67, yn "stori dylwyth teg symffonig i blant" ac yn gyfansoddiad cerddorol a ysgrifennwyd gan Sergei Prokofiev ym 1936. Mae adroddwr yn adrodd y stori i blant, tra fo'r gerddorfa yn ei darlunio. Dyma gyfansoddiad mwyaf poblogaidd Prokofiev, y gwaith sy'n cael ei berfformio amlaf, ac un o'r darnau sy'n cael ei berfformio amlaf o fewn byd cerddoriaeth glasurol. Fe'i recordiwyd sawl gwaith.

Pedr a'r Blaidd
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
CrëwrSergei Prokofiev Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1936 Edit this on Wikidata
CyfansoddwrSergei Prokofiev Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dame Edna Everage & Cherddorfa Symffoni Melbourn yn perfformio Pedr a'r blaidd 1997

Cefndir golygu

Ym 1936, rhoddwyd comisiwn i Sergei Prokofiev gan Natalya Sats, cyfarwyddwraig Theatr Ganolog y Plant ym Moscow, i ysgrifennu symffoni gerddorol i blant. Roedd Sats a Prokofiev wedi dod i nabod ei gilydd ar ôl iddo ymweld â'i theatr gyda'i feibion sawl gwaith.[1] Y bwriad oedd cyflwyno plant i offerynnau unigol y gerddorfa. Roedd drafft cyntaf y libreto yn ymwneud ag Arloeswr Ifanc (y fersiwn Sofietaidd o'r Sgowtiaid) o'r enw Pedr sy'n cywiro anghyfiawnder trwy herio oedolyn. (Roedd hwn yn thema gyffredin mewn propaganda wedi'i anelu at blant yn yr Undeb Sofietaidd ar y pryd.) Fodd bynnag, roedd Prokofiev yn anfodlon â'r testun mewn odl a gynhyrchwyd gan Antonina Sakonskaya, awdur plant poblogaidd. Ysgrifennodd Prokofiev fersiwn newydd lle mae Pedr yn dal blaidd. Yn ogystal â hyrwyddo rhinweddau arloesol a ddymunir megis gwyliadwriaeth, dewrder a dyfeisgarwch, mae'r plot yn dangos themâu Sofietaidd megis ystyfnigrwydd y genhedlaeth hŷn wrth-Folsieficaidd (y taid) a buddugoliaeth dyn (Pedr) i drechu natur (y blaidd).[2]

Cynhyrchodd Prokofiev fersiwn ar gyfer y piano mewn llai nag wythnos, gan orffen ar 15 Ebrill. Gorffennwyd y trefniant cerddorfaol ar 24 Ebrill. Rhoddwyd perfformiad cyntaf y gwaith mewn cyngerdd i blant ym mhrif neuadd Conservatoire Ffilharmonig Moscow gyda cherddorfa Ffilharmonig Moscow ar 2 Mai 1936. Fodd bynnag, roedd Sats yn sâl ac roedd y llefarydd a chymerodd ei le yn ddibrofiad, a methodd y perfformiad i ddenu llawer o sylw.[1][3][4][5] Yn ddiweddarach y mis hwnnw, rhoddwyd perfformiad llawer mwy llwyddiannus gyda Sats yn lleisio ym Mhalas Arloeswyr Moscow. Cynhaliwyd y perfformiad Americanaidd cyntaf ym mis Mawrth 1938, gyda Prokofiev ei hun yn arwain Cerddorfa Symffoni Boston yn Neuadd Symffoni Boston gyda Richard Hale yn lleisio. Erbyn hynny roedd Sats wedi ei dedfryd i gyfnod yn y gulag, lle cafodd ei hanfon ar ôl i'w chariad y Marsialydd Mikhail Tukhachevsky cael ei ddienyddio am frad ym mis Mehefin 1937.[6]

Plot golygu

Mae Pedr, Arloeswr Ifanc,[7][8] yn byw yng nghartref ei daid mewn cliriad yn y goedwig. Un diwrnod, mae Pedr yn mynd allan i'r llannerch, gan adael giât yr ardd yn agored, ac mae'r hwyaden sy'n byw yn yr iard yn dal ar y cyfle i fynd i nofio mewn pwll gerllaw. Mae'r hwyaden yn dechrau dadlau gydag aderyn bach ("Pa fath o aderyn ydych chi os na allwch hedfan?" - "Pa fath o aderyn ydych chi os na allwch chi nofio?"). Mae cath anwes Pedr yn mynd ar eu trywydd yn dawel, ac mae'r aderyn, wedi'i rybuddio gan Pedr, yn hedfan i ddiogelwch mewn coeden uchel tra bod yr hwyaden yn nofio i ddiogelwch yng nghanol y pwll.

Mae taid Pedr yn ei ddwrdio am fod y tu allan yn y cliriad ar ei ben ei hun ("Beth petai flaidd wedi dod allan o'r goedwig?"), Mae Pedr yn dadlau nôl, gan ddweud: "Nid yw bechgyn fel fi yn ofni bleiddiaid", mae ei daid yn ei gymryd yn ôl i mewn i'r tŷ ac yn cloi'r giât. Yn fuan wedyn, mae "blaidd mawr, llwyd" yn dod allan o'r goedwig. Mae'r gath yn dringo'n gyflym i mewn i'r goeden, ond mae'r hwyaden, sydd wedi neidio allan o'r pwll, yn cael ei hela, ei ddal, a'i lyncu gan y blaidd.

Mae Pedr yn nol rhaff ac yn dringo dros wal yr ardd i'r goeden. Mae'n gofyn i'r aderyn hedfan o gwmpas pen y blaidd i dynnu ei sylw, tra ei fod yn gostwng dolen rhaff ac yn dal y blaidd gerfydd ei gynffon. Mae'r blaidd yn brwydro i gael ei hun yn rhydd, ond mae Pedr yn clymu'r rhaff i'r goeden ac mae'r ddolen yn tynhau.

Mae helwyr, sydd wedi bod yn hela'r blaidd, yn dod allan o'r goedwig yn barod i'w saethu, ond mae Pedr yn gofyn eu cymorth i gymryd y blaidd i sŵ cyfagos mewn parêd buddugoliaethus (perfformiwyd y darn yn gyntaf ar gyfer cynulleidfa o Arloeswyr Ifanc yn ystod dathliadau parêd Mai'r cyntaf) sy'n cynnwys ei hun, yr aderyn, yr helwyr sy'n arwain y blaidd, y gath, a'r taid sarrug sy'n parhau i gwyno "Beth pe bai Pedr heb dal y blaidd? Be fyddai wedi digwydd wedyn?"

Yn niwedd y stori, dywedir wrth y gwrandäwr: "Os ydych chi'n gwrando'n astud, fe glywch yr hwyaden yn cwacio tu mewn i fol y blaidd, gan fod y blaidd, yn ei frys, wedi ei lyncu yn fyw."

Cyfarwyddiadau perfformiad golygu

Cynhyrchodd Prokofiev nodiadau perfformiad manwl yn Saesneg a Rwsieg ar gyfer Pedr a'r blaidd. Yn ôl y cyfarwyddiadau:

"Mae pob cymeriad o'r stori hon yn cael ei chynrychioli gan offeryn cyfatebol yn y gerddorfa: yr aderyn gan ffliwt, yr hwyaden gan obo, y gath gan glarinét yn chwarae stacato mewn cofrestr isel, y taid gan faswn, y blaidd gan dri chorn, Pedr gan bedwarawd llinynnol, drylliau'r helwyr gan ddrymiau tegell a drwm bas. Cyn perfformiad cerddorfaol mae'n ddymunol dangos yr offerynnau hyn i'r plant gan chwarae arnynt y leitmotifau cyfatebol. Drwy hynny, mae'r plant yn dysgu gwahaniaethu nodweddion yr offerynnau yn ystod perfformiad y stori hon.[9]

Offeryniaeth golygu

Mae Pedr a'r blaidd wedi ei sgorio ar gyfer y gerddorfa ganlynol:

  • Pres: 3 corn yn F, trymped yn B ♭ a thrombôn
  • Offerynnau taro: tympanau, triongl, tambwrîn, symbalau, castanetau, drwm tannau, a drwm bas
  • Offerynnau llinynnol: ffidlau cyntaf ac ail, fiolas, sielo a basau dwbl
  • Chwythbrennau: ffliwt, obo, clarinét yn A, a basŵn

Mae gan bob cymeriad yn y stori offeryn arbennig a thema gerddorol:[10]

  • Aderyn: Ffliwt
 
 
 
 
 
  • Helwyr: thema chwythbrennau ac utgyrn gyda, ergydion o'u drylliau ar tympanau a drwm bâs
 
 

Mae perfformiad yn para tua 25 munud.[11]

Recordiadau golygu

Prif erthygl: Pedr a'r blaidd - Disgyddiaeth

Yn ôl erthygl gan Jeremy Nicholas ar gyfer y cylchgrawn cerddoriaeth glasurol Gramophone yn 2015, y recordiad gorau o Pedr a'r blaidd yw'r un gan y New Philharmonia Orchestra, wedi ei leisio gan Richard Baker a'i arwain gan Raymond Leppard ym 1971. Y fersiwn DVD gorau yn ôl y cylchgrawn yw Ffilm 2006 gan Suzie Templetonlle mae'r gerddoriaeth yn cael ei berfformio, heb leisiwr, gan y Philharmonia Orchestra dan arweiniad Mark Stephenson.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 New York Times 10 Tachwedd 1985 PROKOFIEV'S 'PETER AND THE WOLF' is 50 YEARS OLD adalwyd 17 Tachwedd 2018
  2. Morrison, Simon. The People's Artist: Prokofiev's Soviet Years. Oxford University Press. tud. 51. ISBN 9780199830985.
  3. McSmith, Andy. Fear and the Muse Kept Watch: The Russian Masters from Akhmatova and Pasternak to Shostakovich and Eisenstein Under Stalin. New Press, The. t. 229. ISBN 9781620970799.
  4. "Boston Symphony Orchestra concert program, Subscription Series, Season 57 (1937-1938), Week 20 :: BSO Program Books". cdm15982.contentdm.oclc.org.
  5. Prokofiev, Sergei (2000); Prokofieva, Rose (cyfieithydd) (1960). Shlifstein, S (gol.). Autobiography, Articles, Reminiscences. The Minerva Group, Inc. t. 89. ISBN 0-89875-149-7.
  6. "Performance History Search". archives.bso.org.
  7. "Snaring a fresh audience using a cautionary tale" by Elissa Blake, The Sydney Morning Herald, 23 Awst 2013
  8. Morrison, Simon (2008). The People's Artist : Prokofiev's Soviet Years. Oxford University Press. t. 46. ISBN 9780199720514.
  9. Morrison, Simon. The People's Artist: Prokofiev's Soviet Years. Oxford University Press. t. 52. ISBN 9780199830985.
  10. Estrella, Espie. "'Peter and the Wolf': Characters and Instruments". About.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-13. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018.
  11. "New York Philharmonic Orchestra, Leonard Bernstein, Prokofiev, Tchaikovsky – Peter And The Wolf / Nutcracker Suite". Discogs. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018.
  12. "Prokofiev's Peter and the Wolf – which recording is best?" by Jeremy Nicholas, Gramophone, 14 Ionawr 2015]; adalwyd 17 Tachwedd 2018