Mae peiriannydd, yn un sy'n ymarfer peirianneg.

Peiriannydd
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth, swydd Edit this on Wikidata
Mathgweithiwr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Diffyniad golygu

Gan amlaf bydd peiriannydd yn weithwyr proffesiynol sy'n dyfeisio, dylunio, dadansoddi, adeiladu a phrofi peiriannau, systemau, strwythurau, teclynnau a deunyddiau cymhleth i gyflawni amcanion a gofynion swyddogaethol wrth ystyried y cyfyngiadau a osodir gan ymarferoldeb, rheoleiddio, diogelwch a chost.[1] Mae'r gair Cymraeg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw un sy'n dyfeisio, adeiladu, trwsio, defnyddio neu'n arolygu offeryn peirianyddol.[2] Gellir dod yn beiriannydd trwy dderbyn gradd mewn maes peirianyddol o brifysgol, hyfforddiant technolegol, prentisiaeth, hyfforddiant mewn man gwaith neu hunan hyfforddiant.

Mewn rhai gwledydd, megis yr Unol Daleithiau, mae peirianneg yn broffesiwn rheoledig y mae ei ymarfer a'i ymarferwyr wedi'u trwyddedu a'u llywodraethu gan y gyfraith. Yng ngwledydd Prydain does dim rheoleiddio dros y term cyffredinol peiriannydd (nac Engineer, yn Saesneg) ond i ymarfer fel peiriannydd arbenigol, megis peiriannydd sifil neu beiriannydd siartredig mae'n rhaid derbyn addysg briodol a/neu gael trwydded a/neu fod yn aelod o gymdeithas broffesiynol briodol.

Peirianwyr arbenigol golygu

  • Mae peirianwyr amgylcheddol yn dylunio ac yn gweithredu atebion i wella ac adfer yr amgylchedd.[3]
  • Mae peirianwyr awyrofod yn dylunio cerbydau gofod neu awyrennau.[4]
  • Mae peirianwyr biofeddygol yn dylunio ac yn gweithio gydag offer meddygol.[5]
  • Mae peirianneg cefnfor a Phensaernïaeth y Llynges yn gweithio ar adeiladu llongau, llongau tanfor a chyrff alltraeth.
  • Mae peirianwyr cemegol yn defnyddio cemegolion i wneud cynhyrchion fel cyffuriau a meddyginiaethau neu wrteithiau ar gyfer cnydau.[6]
  • Mae peirianwyr cyfrifiaduron yn dylunio ac yn adeiladu cyfrifiaduron a'r rhannau y mae cyfrifiaduron wedi'u gwneud ohonynt.[7]
  • Mae peirianwyr electronig yn gweithio gydag electroneg, a ddefnyddir i adeiladu rhannau cyfrifiadurol ac offer trydanol.[8]
  • Mae peirianwyr gweithgynhyrchu yn dylunio ac yn gwella'r peiriannau a'r llinellau cydosod sy'n gwneud pethau. Maent yn gweithio gyda robotiaid, hydroleg a dyfeisiau a weithredir gan aer i helpu cwmnïau i weithio'n gyflymach ac yn well gyda llai o gamgymeriadau.
  • Mae peirianwyr mecanyddol yn dylunio peiriannau neu bethau sy'n symud, fel ceir a threnau. Gallai peiriannydd mecanyddol hefyd helpu i ddylunio gorsafoedd cynhyrchu trydan, purfeydd olew a ffatrïoedd.
  • Mae peirianwyr mecatroneg yn adeiladu robotiaid a phethau sydd fel robotiaid, ond nid yn union. Maen nhw'n gwneud pethau sy'n debyg i roboteg.
  • Mae peirianwyr meddalwedd yn dylunio ac yn ysgrifennu rhaglenni ar gyfer cyfrifiaduron.
  • Mae peirianwyr mwngloddiol yn arbenigwr mewn peiriannau sy'n cael eu defnyddio mewn mwyngloddiau
  • Mae peirianwyr nanotechnoleg yn astudio pethau bach iawn, fel tannau o atomau a sut maen nhw'n cael eu rhoi at ei gilydd.
  • Mae peirianwyr niwclear yn dylunio ac yn adeiladu gorsafoedd niwclear. Maent hefyd yn astudio ymddygiadau nodweddiadol rhai elfennau ymbelydrol neu ansefydlog.
  • Mae peirianwyr sain yn gweithredu offer recordio, cymysgu ac atgynhyrchu sain
  • Mae peirianwyr sifil yn gweithio ar ffyrdd, pontydd, adeiladau a strwythurau cyhoeddus eraill.
  • Mae peirianwyr strwythurol yn delio â dylunio a dadansoddi adeiladau a strwythurau mawr nad ydynt yn adeiladau i wrthsefyll y disgyrchiant a'r llwythi gwynt yn ogystal â thrychinebau naturiol.
  • Mae peirianwyr systemau yn edrych ar ba mor gymhleth y mae pethau'n gweithio ac yn ceisio eu gwneud yn gyflymach ac yn ddoethach. Maen nhw'n edrych ar y darlun mawr.
  • Mae peirianwyr trydanol yn gweithio gyda thrydan ac yn dylunio offer trydanol, o bethau bach fel radios a chyfrifiaduron i bethau mawr fel y gwifrau sy'n cludo trydan ledled y wlad.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Frequently Asked Questions About Engineering". web.archive.org. 2006-05-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-05-22. Cyrchwyd 2021-03-13.
  2. "Geiriadur Prifysgol Cymru - peiriannydd". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2021-03-13.
  3. Team, Go Construct. "Environmental Engineer Job Description & Salary". Go Construct. Cyrchwyd 2021-03-13.
  4. "Aerospace engineer | Explore careers | National Careers Service". nationalcareers.service.gov.uk. Cyrchwyd 2021-03-13.
  5. "Biomedical Engineering: What is it and what are the career opportunities?". Mendeley Careers. Cyrchwyd 2021-03-13.
  6. From Petroleum to Penicillin. The First Hundred Years of Modern Chemical Engineering: 1859–1959. – Burnett, J. N.
  7. "CS | Computer Science". Cyrchwyd 2021-03-13.
  8. "Why study electrical and electronic engineering?". www.bristol.ac.uk. Prifysgol Bryste. Cyrchwyd 2021-03-13.
  9. "Electrical engineer job profile | Prospects.ac.uk". www.prospects.ac.uk. Cyrchwyd 2021-03-13.