Peiriant arian parod

Dyfais cyfathrebu gyfrifiadurol yw peiriant arian parod (PAP[angen ffynhonnell]), neu dwll yn y wal ar lafar yn gyffredinol, (hefyd peiriant tynnu arian) sy'n galluogi cwsmeriaid banc i dynnu arian neu wneud trafodion ariannol eraill mewn lle cyhoeddus, fel rheol y tu allan i fanc, heb angen gweld clerc banc. Yr enw technegol mwyaf cyffredin yn rhyngwladol mewn sawl iaith yw ATM (Saesneg Americanaidd: automated teller machine). Gyda'r rhan fwyaf o beirianau modern, rhaid i'r cwsmer gael ei adnabod trwy roi cerdyn banc (cerdyn twll yn y wal) plastig yn y slot neu 'dwll yn y wal' sydd gyda stribed magnetig a sglodyn arno; mae hyn yn cynnwys rhif cerdyn unigryw a rhai manylion er diogelwch sy'n galluogi'r banc i adnabod y cwsmer a delio gyda'r cais. Yn ogystal mae'n rhaid i'r cwsmer roi ei rif PIN.

Peiriant Twll yn y wal yn yr Iseldiroedd.

Trwy'r peiriant, gall cwsmeriaid gael mynediad at eu cyfrif[on] banc er mwyn tynnu pres o'r cyfrif, neu gael pres ar gredyd os defnyddient gerdyn credyd. Gallent wirio gweddill eu cyfrifon hefyd a defnyddio rhai gwasanaethau eraill. 'Twll yn y wal' yw'r enw mwyaf cyffredin am y peiriannau hyn ar lafar (benthyciad o'r enw llafar Saesneg hole-in-the-wall); mae enwau eraill ar draws y byd yn cynnwys Bancomat (sawl gwlad Ewropeaidd megis Rwsia), Multibanco (Portiwgal), ac Any Time Money (India).

Bellach mae sawl un o'r banciau a chymdeithasau adeiladu yng Nghymru sy'n darparu peiriannau twll yn y wal yn cynnig gwasanaeth dwyieithog neu rannol ddwyieithog, yn Gymraeg neu Saesneg, yn ôl dewis y cwsmer.

Mae sgamiau twll yn y wal yn dod yn fwyfwy cyffredin a chynghorir pobl i gymryd gofal wrth roi eu manylion yn y peiriant rhag ofn iddynt gael eu dwyn a'u defnyddio i ddwyn eu harian.

Manteision i'r cwsmer golygu

Bysellbad Almaeneg ar beiriant arian parod
  • Mae'r peiriannau yn cynnig gwasanaethau 24 awr y dydd, trwy'r flwyddyn.
  • Maent yn gyffredin iawn, fel rheol lleolir tu allan i fanciau, uwchfarchnadoedd a gorsafoedd petrol.
  • Mae'r gwasanaethau yn gyflym ac yn ddiffwdan.

Anfanteision i'r cwsmer golygu

  • Mae'r banc yn cynnig fwy o wasanaethau.
  • Gall fod problem efo'r peiriant, er enghraifft nad oes arian ar ôl.
  • Mae'r peiriannau yn agored i niwed: gall troseddwr ffitio dyfais sy'n darllen cardiau.

Manteision i'r banc golygu

  • Bydd llai o gwsmeriaid yn llai o gost cyflogi i'r banc.
  • Mae'r system yn un gyfrifiadurol ac felly gellir gwneud gwiriadau i'r gwasanaethau a gynigir ar sail y cwsmer.

Anfanteision i'r banc golygu

  • Mae'r peiriannau yn ddrud i'w prynu, gosod a chynnal.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: