Memyn rhyngrwyd ar ffurf comics sy'n ceisio rhoi gwedd ddychanol a pherspectif gwahanol ar faterion rhyngwladol ydy Pelenpwyl (Saesneg: Polandball) neu Pelenwlad (Saesneg: countryball) sy'n mynd nôl i Awst 2009. Cynrycha'r sfferau gyda chymeriad dynol iddo wledydd arbennig gan ddefnyddio Saesneg carbwl.

Pelenpwyl

Yn Awst 2009 cafwyd seibr-ryfel rhwng Pwyliaid a defnyddwyr o weddill y byd ar wefan drawball.com a oedd yn rhoi canfas glân i ddefnyddwyr dynnu llun digidol o unrhyw beth y dymunent. Cydweithiodd miloedd o Bwyliaid ar belen gyda baner Gwlad Pwyl arno ac enw'r wlad. Ond cydweithiodd gweddill y byd i orchuddio'r belen gyda swastica, gyda chymorth gwefan 4chan.[1][2]

Enghraifft o gomic polandball sy'n dychanu Estonia.

Er enghraifft, mae rhai o'r comics yn gwneud hwyl am y ffaith nad yw Gwlad Pwyl wedi cyrraedd y gofod, ond fod Rwsia wedi gwneud hynny ers talwm.

Y Deyrnas Unedig

Ceir enghreifftiau eraill o belipwyl: Y Deyrnas Unedig yn gwisgo het sidan gyda chantel lydan (i gynrychioli John Bull, mae'n debyg) a chynrychiolir Israel gyda chiwb a Kazakhstan fel bricsen.[3]

Gemau Fideo Belenpwyl golygu

Mae Pelenpwyl yn cael llawer o emau yn ddiweddar (dydy Pelenpwyl dim yn hawlfraintio, felly gall unrhyw cymdeithas yn wneud gemau Pelenpwyl), Cymdeithas fideo gêm yn Hong Cong, Sunny Chow, wedi wneud gêm yn enw Polandball: Not Safe For World neu Polandball NSFW, ble mae'r chwaraewr yn chwarae fel gwladau i helpu'r UDA acheb'r byd o broblemau byd-eang.

Gemau Fideo Belenpwyl
Blwyddin Teitl Cyhoeddwr Platfform(au) Dimensiwn
Tua 2018 Polandball Mix and Mess[4][5] Sunny Chow Microsoft Windows, MacOS 3D
Tua 2016 Polandball: Can into Space Alien Pixel Studios, AlienPixel Android, Microsoft Windows, Linux, MacOS 2D
Tua 2017 Polandball: Not Safe for World Sunny Chow iOS, Android 3D

Cyfeiriadau golygu

  1. Orliński, Wojciech (16 Ionawr 2010). "Wyniosłe lol zaborców, czyli Polandball". Gazeta Wyborcza. Cyrchwyd 25 Mawrth 2012.
  2. Zapałowski, Radosław (15 Chwefror 2010). "Znowu lecą z nami w... kulki" (yn Pwyleg). Cooltura. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-14. Cyrchwyd 22 Mawrth 2012.
  3. "Int". Lurkmore.to. 26 December 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-21. Cyrchwyd 27 Mawrth 2012.
  4. "Tudalen Polandball: Mix and Mess". Itch.io. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 25, 2020. Cyrchwyd Ionawr 25, 2020. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Dydy'r gêm hon wedi cyhoedd a'n anorffenedig, yn ôl Sunny Chow.