Diwrnod i ddathlu diwedd blwyddyn gron ar ôl digwyddiad neilltuol yw pen-blwydd, yr enedigaeth fel rheol. Mae'r gair "blwydd" yn cyfeirio at "flwyddyn". Defnyddir y term hefyd i gofnodi hyn-a-hyn o flynyddoedd o fewn priodas h.y. pen-blwydd priodas. Ymddangosodd y gair mewn argraffiad Cymraeg yn gyntaf yn 1862.[1] Y cyfarchiad arferol yn y Gymraeg ydyw "Pen-blwydd hapus!" a chenir cân i gyfarch a dymuno hapusrwydd i'r person, sef Pen-blwydd Hapus i Ti a sgwennwyd gan ddwy chwaer Patty Hill a Mildred J. Hill oddeutu 1912.

Teisen pen-blwydd, Baziege, Ffrainc; 2013
Pen-blwydd 'Sefydliad y Merched'; Cymru, 1 Hydref 1947

Pen-blwydd geni person golygu

Mewn sawl diwylliant, cynhelir dathliad ar ben-blwydd genedigaeth person. Ceir parti a rhoddir anrhegion a chardiau pen-blwydd. Mae'n bosib mai defod Mithras oedd tarddiad yr arfer o ddathlu pen-blwydd yn Ewrop, ac i'r syniad cael ei ledaenu gan luoedd yr Ymerodraeth Rufeinig. Ond ni ddethlir pen-blwyddi unigolion gan bawb ymhob diwylliant.

Pen-blwyddi eraill golygu

Mae sawl math arall o ben-blwyddi'n cael eu nodi neu eu dathlu:

  • Priodas - yn enwedig felly ar ôl 25 mlynedd (priodas Arian), 40 mlynedd (Rhuddem), neu 50 mlynedd (Aur)
  • Dyddiad sefydlu gwladwriaeth neu fudiad.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 26 Mawrth 2015
Chwiliwch am pen-blwydd
yn Wiciadur.