Pen yr Ole Wen

mynydd (978m) yng Ngwynedd

Mae Pen yr Ole Wen yn fynydd yn y Carneddau yn Eryri. Mae'r ystyr yr enw'n amlwg pan ystyrir y gair 'goleddf' ('yr oleddf') a goleddf serth y mynydd, gyda rhai llwybrau'n 1:2.

Pen yr Ole Wen
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirConwy, Gwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr978 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.137665°N 4.010657°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6559861947 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd45 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCarnedd Dafydd Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddY Carneddau Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth golygu

Fel y rhan fwyaf o fynyddoedd y Carneddau, mae'n fynydd mawr, moel. Mae'r ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy yn mynd tros y copa. Pen yr Ole Wen yw'r pellaf i'r de-orllewin o fynyddoedd y Carneddau. Wrth ei droed mae Llyn Ogwen a ffordd yr A5, a'r ochr arall i'r llyn mae mynyddoedd y Glyderau yn dechrau. I'r gogledd-ddwyrain mae'r nesaf o gadwyn y Carneddau, Carnedd Dafydd.

Llwybrau golygu

Gellir ei ddringo o ochr gogleddol Llyn Ogwen, gan ddilyn llwybr sy'n cychwyn gerllaw'r fan lle mae Afon Ogwen yn gadael y llyn. Mae'r llwybr yma yn eithriadol o serth, gyda thua 675 m o dringo mewn tua 1.5 km, graddfa o bron 1 mewn 2 ar gyfartaledd. Dull ychydig yn haws yw cychwyn ger hen ffermdy Tal-y-Llyn Ogwen ger pen dwyreiniol y llyn, a dilyn Afon Lloer i fyny'r llethrau nes daw llyn Ffynnon Lloer i'r golwg. O'r fan hyn mae llwybr yn arwain i'r chwith i fyny'r grib i gopa Pen yr Ole Wen. Gellir hefyd ei ddringo trwy ddringo un o'r copaon eraill yn y Carneddau a cherdded ar hyd y grib.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)