Pencadlys BBC Cymru

adeilad yng Nghaerdydd

Mae Pencadlys BBC Cymru (Saesneg: BBC Wales Headquarters) yn adeilad yn Sgwâr Canolog, Caerdydd sy'n cynnwys swyddfeydd a stiwdios ar gyfer BBC Cymru yn ogystal â gwasanaethau technegol S4C.[6] Mae'r adeilad gwerth £120 miliwn yn cymryd lle hen Ganolfan Ddarlledu BBC Cymru yn Llandaf,[5]. Cyfeiriad swyddogol yr adeilad yw 3 Sgwâr Canolog.

Pencadlys BBC Cymru
BBC Wales Headquarters
Gwybodaeth gyffredinol
MathSwyddfa darlledu
Arddull bensaernïolPensaerniaeth uwch-dechnoleg
LleoliadCanol Caerdydd
Cyfeiriad3 Sgwâr Canolog, Caerdydd CF10 1FP
GwladCymru
Tenantiaid cyfedolBBC Cymru
S4C
Manwerthu cymysg
Dechrau adeiladu7 Rhagfyr 2015[1]
Gorffenwyd1 Awst 2019
Cost£100,000,000
Technical details
Nifer o loriau5[2]
Arwynebedd y llawr14,454 m2 (155,580 tr sg)[3]
Cynllunio ac adeiladu
ClientBBC Cymru
PerchennogRightacres Property Company Ltd
LandlordRightacres
Prif gontractwrISG UK Construction West[1]
PensaerGerard Evenden[4]
Cwmni pensaernïolFoster + Partners[5]
DatblygwrRightacres Property[2]
PeiriannyddArup
Peiriannydd strwythurolArup[1]
Peiriannydd sifilAECOM
Quantity surveyorCurrie & Brown
Gwefan
centralsquarecardiff.co.uk/

Cynlluniwyd yr adeilad gan Foster a'i Bartneriaid, ac mae'n darparu lle ar gyfer 1,200 o staff ar bedwar llawr, gyda gofod ar gyfer swyddfeydd, stiwdios a chynhyrchu. Mae'r adeilad hanner maint y pencadlys blaenorol yn Llandaf. Bydd desgiau ar gael i 750 o staff gyda'r disgwyl na fydd pawb yn gweithio yn yr adeilad ar unrhyw adeg. Bydd y llawr gwaelod yn ofod cyhoeddus a masnachol gyda unedau wedi eu gosod ar gyfer siopau. Mae'r adeilad ar hen safle gorsaf fysiau Caerdydd Canolog.[7] Rhagwelir y bydd tua 50,000 o bobl yn ymweld â'r adeilad newydd bob blwyddyn. Cytunodd y BBC ar brydles 20 mlynedd ar yr adeilad am rent blynyddol o tua £25 fesul troedfedd sgwâr y flwyddyn gyda chwmni Rightacres Property, datblygwr y Sgwâr Canolog.[8]

Symud gweithgareddau o Landaf golygu

Cychwynnodd rhai o staff y BBC symud i'r pencadlys newydd yn Hydref 2019. Roedd oedi yn y broses o symud gwasanaethau i'r adeilad ar ddechrau 2020 oherwydd problemau gyda'r dechnoleg newydd ac roedd angen cymryd fwy o amser i ddatrys hyn.[9]

Trosglwyddwyd gwasanaeth darlledu ac adran gyflwyno BBC Cymru i'r pencadlys ar 15 Gorffennaf 2020, gyda Leanne Thomas yn rhoi'r cyflwyniad i'r rhaglen BBC News at Six.[10] Ar 25 Gorffennaf 2020, symudodd y gorsafoedd radio Radio Cymru a Radio Cymru 2 i'r adeilad newydd.[11] Ar 31 Gorffennaf 2020, symudodd rhaglenni Radio Wales gyda rhaglen "Owen Money’s Golden Hour" am 10:00 y cyntaf i'w ddarlledu o'r adeilad newydd.

Darlledwyd y rhaglen deledu cyntaf o'r adeilad newydd ar 23 Medi 2020, gyda Catrin Heledd yn cyflwyno gêm pêl-droed merched Cymru yn erbyn Norwy. Symudodd prif raglenni newyddion BBC Wales Today a Newyddion (S4C) i'w stiwdios newydd ar 28 Medi 2020.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "ISG named as main contractor for BBC Wales new headquarters at Central Square scheme in the centre of Cardiff". Walesonline. Cyrchwyd 25 September 2017.
  2. 2.0 2.1 "The new BBC HQ is already changing the cityscape of Cardiff". Walesonline. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2017.
  3. "BBC Wales Broadcasting House, Cardiff". SteelConstruction.info. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2017.
  4. "Plans revealed for one of Wales's most ambitious development projects at Central Square scheme in Cardiff". Walesonline. Cyrchwyd 31 December 2017.
  5. 5.0 5.1 "First images inside BBC Wales' new £120m headquarters in the centre of Cardiff". Walesonline. Cyrchwyd 25 September 2017.
  6. "Central Square & BBC Wales Headquarters Building (Sept 14)". Design Commission for Wales. Cyrchwyd 28 September 2017.
  7. "BBC Wales HQ at bus station site". BBC. Cyrchwyd 25 September 2017.
  8. "What the relocation of BBC Wales' headquarters means for Cardiff city centre". Walesonline. Cyrchwyd 25 September 2017.
  9. BBC Wales move to new Cardiff headquarters hit by 'technical problems' (en) , WalesOnline, 3 Mawrth 2020. Cyrchwyd ar 26 Gorffennaf 2020.
  10. BBC Wales Central Square studios in Cardiff go live (en) , BBC Wales News, 15 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd ar 26 Gorffennaf 2020.
  11. Radio Cymru’n darlledu o bencadlys newydd am y tro cyntaf , Golwg360, 25 Gorffennaf 2020.


Oriel golygu