Pencampwriaeth Rygbi yr Americas

Mae Pencampwriaeth Rygbi yr Americas (enw swyddogol, masnachol: Americas Rugby Championship) yn gystadleuaeth rygbi'r undeb, a gynhelir bob blwyddyn ym mis Chwefror a mis Mawrth, gan dimau Ariannin XV (tîm wrth gefn yr Ariannin gelwir hefyd yn y Jaguars), Brasil, Canada, Chile, UDA ac Wrwgwái. Ysbrydolwyd hi ym mhob ffordd gan Dwrnamaint Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a gelwir hi weithiau yn Americas' Six Nations. Cynhaliwyd y tymor gyntaf yn 2016 er bod hanes hŷn o gystadlaethau pan-Americanaidd.

Americas Rugby Championship
Logo Pencampwriaeth Rygbi yr Americas

Cyhoeddir yr enillydd yn "Pencampwr America". Goronir y tîm gyda'r "Gamp Lawn" pan fydd wedi trechu bob tîm arall yn y twrnamaint (fel gwnaeth yr Unol Daleithiau yn 2018). Mae'r record orau o'r gystadleuaeth hefyd yn cael ei dal gan yr Americanwyr yn ogystal â'r Ariannin gyda dwy fuddugoliaeth derfynol yr un.

Hanes golygu

 
Pencampwriaeth Rygbi yr Americas, 2017, Wrwgwái v Canada
 
Pencampwriaeth yr Americas, 2016 Wrwgwái v UDA

Cafodd Pencampwriaeth Rygbi wreiddiol America (a drefnwyd gan World Rugby) ei sefydlu yn 2009, pan gystadlodd timau cenedlaethol, rhanbarthol a datblygu o Ogledd a De America am y teitl.

Cyflwynwyd y cynnig i greu cystadleuaeth gyntaf ym mis Ebrill 2015 gan Agustín Pichot, cyn chwaraewr o’r Ariannin a chynrychiolydd World Rugby.[1] Felly, ar 31 Mai 2015, cyhoeddodd Agustín Pichot ei fod yn cadw'r cynnig a wnaed gan y Ffederasiwn Rygbi Rhyngwladol i'w greu o dan yr enw "Pencampwriaeth Rygbi America". Ym mis Medi 2015, cymeradwywyd y gystadleuaeth i'w lansio ac cynhaliwyd y tymor cyntaf yn 2016.[2]

Cafodd y gêm rygbi ryngwladol gyntaf yn y gystadleuaeth newydd ei chwarae ar 6 Chwefror 2016 rhwng Canada ac Wrwgwái. Chwaraewyd y gêm yn Stadiwm Westhills yn Langford, British Columbia, Canada. Enillodd u Canadiaid y gêm o bum cais yn erbyn * i'r Wrwgwáiaid.[3] Daeth y rhifyn cyntaf i ben gyda choroni yr Ariannin yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Brasil 42 i 7.[4]

Enillwyr Blaenrol golygu

Year Teams Champions Games
played
Games
won
Games
drawn
Games
lost
Points
for
Points
against
Points
difference
Bonus
points
Table
points
2009 6   Yr Ariannin Jaguars, tîm A NA
2010 4   Yr Ariannin Jaguars, tîm A 3 3 0 0 122 46 +76 2 14
2012 4   Yr Ariannin Jaguars, tîm A 3 3 0 0 88 22 +66 1 13
2013 4   Yr Ariannin Jaguars, tîm A 3 3 0 0 84 23 +61 2 14
2014 4   Yr Ariannin Jaguars, tîm A 3 3 0 0 111 32 +79 3 15
2016 6   Yr Ariannin Jaguars, tîm A 5 4 1 0 207 99 +108 4 22
2017 6   Unol Daleithiau America 5 4 1 0 215 96 +119 4 22
2018 6   Unol Daleithiau America 5 5 0 0 197 68 +129 4 24
2019 6   Yr Ariannin Jaguars, tîm A 5 5 0 0 258 60 +198 5 25

Diweddarwyd ar ôl cystadleuaeth Americas Rugby Championship yn 2019

Hunaniaeth weledol golygu

Datgelir logo'r gystadleuaeth newydd ym mis Ionawr 2016: mae'n cynrychioli'r rhif 6 a phêl rygbi, a ffurfiwyd gan bwâu o wyrdd, glas a choch, y mae eu cysgodau'n symbol o'r chwe thîm cenedlaethol.[5].

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu