Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019

Cystadleuaeth rygbi'r undeb 2019

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019 yw'r 20fed yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraeir pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 1 Chwefror a 16 Mawrth 2019. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth NatWest y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc y National Westminster[2]. Enillodd Cymru y bencampwriaeth gyda Camp Lawn, eu cyntaf ers 2012.

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019
Dyddiad1 Chwefror – 16 Mawrth 2019
Gwledydd
Ystadegau'r Bencampwriaeth
Pencampwyr Cymru (27fed tro)
Y Gamp Lawn Cymru (12fed teitl)
Y Goron Driphlyg Cymru (21ain teitl)
Tlws y Mileniwm Lloegr
Quaich y Ganrif Iwerddon
Tlws yr Auld Alliance Ffrainc
Gemau a chwaraewyd15
Ceisiau a sgoriwyd84 (5.6 y gêm)
Sgoriwr y nifer fwyaf
o bwyntiau
Lloegr Owen Farrell (59)
Sgoriwr
y nifer fwyaf
o geisiadau
Lloegr Jonny May (6)
Chwaraewr y bencampwriaethCymru Alun Wyn Jones[1]
Gwefan swyddogolsixnationsrugby.com
2018 (Blaenorol) (Nesaf) 2020

Y chwe gwlad yw Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadlaethau (y Cystadlaethau Cartref a Phencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma'r 125ain cystadleuaeth.

Y timau golygu

Gwlad Lleoliad Dinas Prif Hyfforddwr Capten
  Lloegr Stadiwm Twickenham Llundain Eddie Jones Owen Farrell
  Ffrainc Stade de France Saint-Denis Jacques Brunel Guilhem Guirado
  Iwerddon Lansdowne Road Dulyn Joe Schmidt Rory Best
  yr Eidal Stadio Flaminio Rhufain Conor O'Shea Sergio Parisse
  yr Alban Stadiwm Murrayfield Caeredin Gregor Townsend Greig Laidlaw
  Cymru Stadiwm y Mileniwm Caerdydd Warren Gatland Alun Wyn Jones

Tabl golygu

Safle Gwlad Gemau Pwyntiau Ceisiadau Pwyntiau bonws Pwyntiau
Chwaraewyd Enillwyd Cyfartal Collwyd Dros Yn erbyn Gwahaniaeth Dros Yn erbyn Camp Lawn Ceisiadau Collwr
1   Cymru (P) (CL) 5 5 0 0 114 65 +49 10 7 3 0 0 23
2   Lloegr 5 3 1 1 184 101 +83 24 13 0 4 0 18
3   Iwerddon 5 3 0 2 101 100 +1 14 10 0 2 0 14
4   Ffrainc 5 2 0 3 93 118 −25 12 15 0 1 1 10
5   yr Alban 5 1 1 3 105 125 −20 14 17 0 2 1 9
6   yr Eidal 5 0 0 5 79 167 −88 10 22 0 0 0 0

(P) = Pencampwyr
(CL) = Enillwyr Camp Lawn

Rheolau golygu

  • Pedwar pwynt gornest ar gyfer ennill gêm.
  • Dau bwynt gornest i'r ddau dîm mewn gêm gyfartal.
  • Pwynt bonws i dîm sy'n colli gêm o saith pwynt neu lai, a/neu yn sgorio pedwar gwaith neu fwy mewn gêm.
  • Tri pwynt bonws i'r tîm sy'n ennill pob gêm (Camp Lawn).
  • Os oes dau neu fwy tîm yn gyfartal ar bwyntiau gornest, yna bydd y tîm sydd a'r gwahaniaeth pwyntiau gwell (cyfanswm pwyntiau sgorwyd minws y pwyntiau a gollwyd) yn codi'n uwch yn y tabl.
  • Os nad yw hyn yn gwahanu timau cyfartal, bydd y tîm a sgoriwyd y nifer uchaf o geisiadau yn codi'n uwch.
  • Wedi hyn, os bydd dau neu fwy tîm yn gyfartal ar gyfer y lle cyntaf ar ddiwedd y Bencampwriaeth, yna bydd y teitl yn cael ei rannu rhyngddynt.

Cyfeiriadau golygu