Pendeulwyn

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Pendeulwyn (llurguniad Saesneg: Pendoylan). Saif yng ngogledd y sir rhwng yr A48 a thraffordd yr M4, tua 7 milltir i'r gorllewin o ganol Caerdydd a thua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Bont-faen. Y pentref agosaf yw Llanddunwyd.

Pendeulwyn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth464 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,490.01 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.481°N 3.355°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000921 Edit this on Wikidata
Cod OSST060767 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map
Eglwys a thafarn Pendeulwyn

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]

Lleolir ysgol gynradd yn y pentref a reolir gan yr Eglwys yng Nghymru. Canolfan y pentref yw Eglwys Sant Cadog. Ceir hefyd gapel a neuadd y pentref.

Saif Castell Felin Isaf, sef hen domen a beili o'r Oesoedd Canol tua 2 kilometr i'r gogledd.

Gorwedd Castell Hensol o fewn y plwyf a godwyd i'r barnwr brenhinol David Jenkins (1582-1663). Fe'i hetifeddwyd gan William Talbot ac ychwanegwyd dwy adain yn 1735, ac maent ymhlith yr enghreifftiau cynharaf yng ngwledydd Prydain o adeiladu yn y dull neo-Gothig.

Gwinllan golygu

I'r gogledd o Bendeulwyn mae gwinllan mwyaf llwyddiannus Cymru, sef "Llannerch".[3]

Enwogion golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pendeulwyn (pob oed) (464)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pendeulwyn) (50)
  
11.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pendeulwyn) (348)
  
75%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pendeulwyn) (52)
  
27.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-22.
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 701
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol golygu