Mewn anatomeg ddynol, penelin yw'r rhan o gwmpas cymal y penelin (sy'n gymal colfach) yng nghanol y fraich. Mae tair asgwrn yn ffurfio'r cymal hwn: yr uwchelin (hwmerws) yn y bôn braich a'r ddau asgwrn radiws ac wlna yn yr elin.

Y penelin

Olecranon yw'r enw am y rhan o'r benelin sy'n dod yn bigyn pan fo wedi'i blygu i'r eithaf, mae'n ran o'r wlna; gelwir y tu fewn i'r penelin yn antecubital fossa (pant rhagelinol).

Delweddau ychwanegol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.