Pentref fechain yn ardal Dumfries a Galloway, yr Alban yw Penpont (Cymraeg: Pen y Pont).[1] Lleolir dwy filltir i'r gorllewin o Thornhill, ger cydlifiad afonydd y Shinnel Water a'r Scaur Water ym mryniau godre'r Uwchdiroedd deheuol, ac mae poblogaeth o tua 400 o bobl. Mae Penpont yn nodweddiadol fel lle geni Joseph Thomson, y daearegwr a'r fforydd, enwyd y Thomson's Gazelle ar ei ôl. Mae'r cerflunydd Andy Goldsworthy hefyd yn byw a gweithio yn y pentref ers sawl mlynedd. Gellir gweld ei weithiau ogwmpas y pentref, gan gynnwys strwythr siap mochyn coed ger Fferm Stepends a adeiladwyd ar gfer dathliad y flwyddyn 2000.Adeiladwyd eglwys y blwyf yn 1867, mewn steil Gothig gyda bwtresi mawrion. Mae hefyd yn cynnwys bwrdd cymun mewn steil Art Nouveau sy'n dyddio o 1923. Mae nifer o safleoedd o ddiddordeb archeoloegol ger llaw, gan gynnwys caaeri'r Oes Efydd ym mryniau Tynron Doon a Grennan Hill a charnedd hir wrth Capenoch Loch sy'n dyddio o'r ail neu'r 3g. Cynhelir gŵyl "Penpont Gala" yn flynyddol, yn ystod wythnos cyntaf Gorffennaf, mae'r ŵyl yn para wythnos gyfan.

Penpont
Delwedd:Penpont, Dumfries and Galloway.jpg, Penpont village centre - geograph.org.uk - 1326065.jpg, Bridge over the River Nith (3) - geograph.org.uk - 533035.jpg
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDumfries a Galloway Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.23247°N 3.814175°W Edit this on Wikidata
Cod OSNX8494 Edit this on Wikidata
Map
Y groesffordd yng nghanol y pentref
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. The Placenmes of Scotland, James B. Johnston, Dùn Èideann 1892