Y grefft a'r wyddor o gynllunio adeiladau yw pensaernïaeth. Diffiniad ehangach fyddai cynnwys holl amgylchedd adeiladu. Mae hynny yn cynnwys tirlunio, sef cynllunio tirlun, cynllunio gwlad a thref, sef cynllunio strwythur sylfaenol ardaloedd a pheirianneg sifil, sef cynllunio adeiladwaith megis ffyrdd, pontydd, twneli a chamlesi.

Pensaernïaeth

Mae pensaernïaeth yn cynnwys cynllunio adeiladau cyhoeddus ac adeiladau preifat yn ogystal â chyfuniadau o adeiladau, er enghraifft stadau tai. Mae pensaernïaeth yn wyddionaeth bwysig ar gyfer cadwraeth adeiladau hefyd.

Yn 2001 sefydlwyd Ysgogoloriaeth Pensaernïaeth yr Eisteddfod Gelf a Chreft. Amcan yr ysgoloriaeth yw hyrwyddo pensaernïaeth greadigol a dylunio yng Nghymru.

Mae penseiri enwog Cymru yn cynnwys John Nash (1758-1835), pensaer yr eglwys gadeiriol Tyddewi a Syr Clough Williams-Ellis (1883-1978), pensaer y pentref Eidalaidd Portmeirion.

Ymhlith yr ysgolion mwyaf dylanwadol y mae: Bauhaus (Weimar, Dessau a Berlin yn yr Almaen), yr Architectural Association School of London (Lloegr) a'r École des Beaux-Arts (Paris, Ffrainc; hyd at 1968, ers hynny École d'Architecture).

Gweler hefyd golygu

Dolen allanol golygu