Chwaraewr hoci iâ Ffinnaidd-Ganadaidd oedd Pentti Alexander Lund (6 Rhagfyr 192516 Ebrill 2013).[1] Lund oedd yr ail Ffiniad i chwarae yn yr NHL; Al Pudas oedd y cyntaf, gyda'r Toronto Maple Leafs yn nhymor 1926–7.

Pentti Lund
Ganwyd6 Rhagfyr 1925 Edit this on Wikidata
Karijoki Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 2013 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Thunder Bay Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Ffindir Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr hoci iâ, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Pwysau185 pwys Edit this on Wikidata
Gwobr/auCalder Memorial Trophy Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auBoston Bruins, New York Rangers Edit this on Wikidata
Safleforward Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeony Ffindir Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Karijoki, y Ffindir, a symudodd ei deulu i Port Arthur, Ontario, pan oedd yn 6 oed. Chwaraeodd Lund i'r Boston Bruins a'r New York Rangers. Ym 1962 ymunodd â'r Daily-Times Journal yn Ontario a daeth yn olygydd chwaraeon y papur newydd hwnnw. Bu farw yn Thunder Bay, Ontario, o strôc.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Goldstein, Richard (18 Ebrill 2013). Pentti Lund, First Finn to Star in the N.H.L., Dies at 87. The New York Times. Adalwyd ar 19 Ebrill 2013.



   Eginyn erthygl sydd uchod am Ganadiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Ffiniad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am hoci iâ. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.