Pentwyn, Caerdydd

ardal yng Nghaerdydd

Ardal, cymuned a ward etholiadol yng Nghaerdydd yw Pentwyn,[1] weithiau Pen-twyn. Lleolir yng ngogledd-dwyrain y ddinas, rhwng Cyncoed a Phontprennau. Saif ar lan orllewinol Afon Rhymni. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 14,643.

Pentwyn
Mathcymdogaeth, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.527°N 3.133°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001001 Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Pentwyn (gwahaniaethu).

Mae'r gymuned yn cyfateb yn fras i hen blwyf Llanedern. Bu llawer o adeiladu yma yn rhan olaf yr 20g.

Llywodraeth golygu

Mae ward Pentwyn yn rhan o etholaeth seneddol Canol Caerdydd. Mae'n arffinio â wardiau Pontprennau a Phentref Llaneirwg i'r gogledd; Llanrhymni i'r dwyrain; Pen-y-lan i'r de; a Cyncoed i'r gorllewin.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.

Dolen allanol golygu

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato