Periffereiau Groeg

Rhennir Gwlad Groeg yn 13 o raniadau o'r enw Periffereiau (Groeg: Περιφέρειες, "Periffereies"). O'r rhain, mae naw ar y tir mawr a phedwar ar yr ynysoedd.

Yn draddodiadol, hyd at 1987, roedd deg rhanbarth, a cheir cyfeiriadau at y rhain o hyd, er nad ydynt yn unedau gweinyddol, mwyach.

Map Rhif Peripheri Prifddinas Arwynebedd Poblogaeth
1 Attica Athen 3,808 km² 3,761,810
2 Canolbarth Groeg Lamia 15,549 km² 605,329
3 Canolbarth Macedonia Thessaloniki 18,811 km² 1,871,952
4 Creta Heraklion 8,259 km² 601,131
5 Dwyrain Macedonia a Thrace Kavála 14,157 km² 611,067
6 Epiros Ioannina 9,203 km² 353,820
7 Ynysoedd Ionia Corfu 2,307 km² 212,984
8 Gogledd Aegea Mytilene 3,836 km² 206,121
9 Peloponnesos Kalamata 15,490 km² 638,942
10 De Aegea Ermoupoli 5,286 km² 302,686
11 Thessalia Lárisa 14.037 km² 753,888
12 Gorllewin Groeg Patras 11,350 km² 740,506
13 Gorllewin Macedonia Kozani 9,451 km² 301,522
- Mynydd Athos (Ymreolaethol) Karyes 390 km² 2,262