Mewn anatomeg ddynol, mae'r perinewm rhwng y coesau (o fewn gwacter y pelfis), a rhwng (ac yn cynnwys) yr anws a'r fwlfa (mewn merched) neu'r pidyn mewn dyn. Ar lafar gwlad, fodd bynnag, mae'r gair fel arfer yn disgrifio'r aradal rhwng yr anws a'r organau rhyw ond heb gynnwys yr anws ei hun.

Yn 1967 cyhoeddwyd ymchwil gan Alfred Kinsley a ddywedodd fod y periniwm yn un o'r chwech prif ardal pleser rhywiol mewn dyn.

Mae hyd perinewm merch oddeutu hanner hyd perinewm dyn.