Periodontitis

afiechyd dynol

Mae Periodontitis, sydd hefyd yn cael ei alw'n llid y deintgig a pyorrhea, yn set o glefydau llidus sy'n effeithio ar y meinwe o amgylch y dannedd. Mae periodontitis yn achosi colli'r asgwrn alfeolaidd o amgylch y dannedd, a heb ei drin, gall arwain at lacio ac yna golli dannedd.

Periodontitis
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathafiechyd periodontitis, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae periodontitis yn cael ei achosi gan feicroorganebau sy'n glynu at ac yn tyfu ar arwyneb y dant, ynghyd ag gor-ymateb imiwnyddol yn erbyn y meicroorganebau hyn. Ceir diagnosis o beriodontitis trwy archwilio meinwe meddal y deintgig o amgylch y dant gyda chwiliedydd (h.y. archwiliad clinigol) a thrwy werthuso ffilmiau pelydr X y claf (h.y. archwiliad radiograffig), i benderfynu faint o esgwrn sydd wedi'i golli o amgylch y dannedd.[1] Mae arbenigwyr yn nhriniaeth periodontitis yn cael eu galw'n beriodontyddion; eu maes yw "periodontoleg" neu "periodonteg".

Cyfeiriadau golygu

  1. Savage, Amir; Eaton, Kenneth A.; Moles, David R.; Needleman, Ian (2009). "A systematic review of definitions of periodontitis and methods that have been used to identify this disease". Journal of Clinical Periodontology 36 (6): 458–67. doi:10.1111/j.1600-051X.2009.01408.x. PMID 19508246.