Roedd Perkin Warbeck (tua 1474 - 23 Tachwedd 1499) yn ymhonnwr i orsedd Lloegr. Honnwyd mai Rhisiart o Amwythig, Dug Efrog, un o feibion Edward IV a garcharwyd yn Nhŵr Llundain ydoedd. Rhisiart, pe bai'n fyw, fyddai wedi bod yn hawliwr haeddiannol i'r orsedd, gan dybio bod ei frawd hynaf Edward V wedi marw, a'i fod yn gyfreithlon, ond roedd hyn yn pwynt dadleuol.

Perkin Warbeck
Ganwydc. 1474 Edit this on Wikidata
Tournai Edit this on Wikidata
Bu farw23 Tachwedd 1499 Edit this on Wikidata
Tyburn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethcogiwr Edit this on Wikidata
PriodCatherine Gordon Edit this on Wikidata

Wynebodd Harri VII ymdrech i’w ddiorseddu yn 1491 gan Warbeck, a oedd yn fab i gasglwr trethi Ffleminaidd. Cefnogwyd ei gais o dramor gan Frenin Ffrainc, Ymerawdwr Awstria, sef Maximilian I a Margaret, Duges Bwrgwyn, chwaer Rhisiart III. Rhoddwyd cefnogaeth iddo gan Iago IV o’r Alban ac roedd Iwerddon y tro hwn unwaith eto yn cefnogi achos yr Iorciaid wrth gyflwyno Warbeck fel yr her i linach y Tuduriaid.

Dywedai Margaret mai Warbeck oedd ei nai colledig a rhoddodd loches iddo yn Fflandrys, yn yr Iseldiroedd, tra bu ei gefnogwyr yn paratoi a threfnu’r ymosodiad. Methiant fu ymdrechion yr Iorciaid a chipiwyd Warbeck yn Beaulieu, Hampshire yn 1497 a’i grogi am deyrnfradwriaeth yn 1499.

Dangosodd Harri VII ei gynddaredd tuag at rôl Fflandrys yn ymdrech Perkin Warbeck drwy yrru allan pob un o’r Fflemiaid oedd yn Lloegr.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Perkin Warbeck | English pretender". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-15.