Cytser seryddol yn hemisffer gogleddol y wybren yw Perseus. Mae'n ymhell i'r gogledd yn yr awyr yn y Llwybr Llaethog rhwng Cassiopeia a'r Pleiades. Ei sêr disgleiriaf yw Mirfak ac Algol.

Perseus
Enghraifft o'r canlynolcytser Edit this on Wikidata
Rhan oNorthern celestial hemisphere Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cytser Perseus

Fe'i enwir ar ôl y cymeriad chwedlonol Perseus a oedd yn fab i Zeus a Danae ym mytholeg Roeg.[1]

Mae Algol, neu Beta Persei, yn seren newidiol enwog. Mae'r seren yn disgleirio gyda maintioli gwelady o 2.3, ond yn edwino bob 2.867 diwrnod i faintioli 3.5. Achosir hyn gan seren llai disglair symud rhwng y seren ddisgleiriaf a'r Cysawd yr Haul oherwydd bod y ddwy seren yn cylchroi o'i amgylch.[2]

O ganlyniad i'w lleoliad yn y Llwybr Llaethog, mae nifer o glystyrau sêr yn Perseus. Mae'r seren Mirfak, neu Alffa Persei, a nifer o sêr llai disglair cyfagos yn ffurfio Clwstwr Alffa Persei, clwstwr agored sydd un o'r clystyrau sêr agosaf i'r Cysawd yr Haul.[3]

NGC 869 a NGC 884, y Clwstwr Dwbl yn Perseus

Mae dau glwstwr sêr, NGC 869 a NGC 884, cyfagos i'w gilydd, yn hawdd i'w weld trwy binocular. Adnabyddir fel y Clwstwr Dwbl. Adnabyddir hefyd fel h a χ Persei ar ôl eu enwau mewn hen gatalogau sêr.[3]

Lleolir y clwstwr sêr Messier 34 yn Perseus, sydd hefyd yn hawdd i'w weld trwy binocular.[3]

Lleolir Clwstwr Perseus neu Abell 426, sydd yn glwstwr galaethau tua 75 milliwn parsec (240 milliwn blwyddyn golau) o'r Cysawd yr Haul, yn y cytser.[4] Yr alaeth ddisgleiriaf yn y clwstwr yw NGC 1275, ffynhonnell radio a phelydr X pwerus a adnabyddir hefyd fel Perseus A.[3]

Gweler hefyd golygu

Ffynonellau golygu

  1. Allen, Richard Hinckley (1899). Star-Names and Their Meanings. Efrog Newydd: G. E. Stechert. Tud. 329–355. (Yn Saesneg.)
  2. "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 24 Mawrth 2017. Ymchwiliad am Algol yn adnodd Simbad.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 3. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23673-0. Tudalennau 1394–1452. (Yn Saesneg.)
  4. "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 24 Mawrth 2017. Ymchwiliad am Abell 426 yn adnodd Simbad.
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.