Perseverance (crwydrwr)


Crwydrwr ar y blaned Mawrth yw Perseverance gyda'r llysenw Percy[1][2]. Mae'r peiriant tua maint car mawr neu SUV ac fe'i gynlluniwyd er mwyn archwilio Ceudwll Jezero ar Mawrth fel rhan o Daith 2020 NASA i'r blaned. Adeiladwyd y crwydrwr gan y Jet Propulsion Laboratory ac fe'i lansiwyd ar 30 Gorffennaf 2020 am 11:50:00 UTC.[3] Cafwyd cadarnhad bod y crwydrwr wedi glanio’n llwyddiannus ar y blaned Mawrth ar 18 Chwefror 2021 am 20:55 UTC.[4][5]

Perseverance
Enghraifft o'r canlynolMars rover Edit this on Wikidata
Màs1,025 cilogram Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Rhan oMars 2020 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganCuriosity Edit this on Wikidata
LleoliadJezero Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrNASA Edit this on Wikidata
GwneuthurwrLabordy Propulsion Jet Edit this on Wikidata
Hyd3 metr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://mars.nasa.gov/mars2020/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hunlun o Perseverance (7 Ebrill 2021)

Mae gan Perseverance ddyluniad tebyg i'w ragflaenydd, Curiosity, gyda uwchraddiad cymhedrol o galedwedd y crwydrwr hwnnw; mae'n cario saith offeryn sylfaenol, 19 camera, a dau feicroffon.[6]

Mae'r amcanion yn cynnwys chwilio am amgylcheddau yng ngorffennol Mawrth oedd yn gallu cynnal bywyd, chwilio am fywyd microbaidd posibl yn yr amgylcheddau hynny, casglu samplau o greigiau a phridd i'w storio ar wyneb y blaned, a phrofi cynhyrchu ocsigen o awyrgylch Mawrth i baratoi ar gyfer teithiau â chriw yn y dyfodol.[7]

Mae'r crwydrwr hefyd yn cario Ingenuity, hofrennydd bach arbrofol er mwyn archwilio y posibiliadau o hedfan cerbyd yn atmosffer y blaned Mawrth. Hedfanodd am y tro cyntaf ar 19 Ebrill 2021 gan wneud hwn yr ehediad pŵeredig cyntaf ar blaned arall. Rhaglennwyd y symudiadau o flaen llaw gyda'r hofrennydd yn gweithio ar ben ei hun. Yn y daith gyntaf, cododd 3m uwchlaw y ddaear, trodd 90 gradd, hofran am 20 eiliad cyn glanio.[8]

Hofrennydd Ingenuity ar wyneb Mawrth

Taith golygu

Amcanion gwyddonol golygu

Mae gan y crwydrwr Perseverance bedwar amcan gwyddonol sy'n cefnogi nodau gwyddoniaeth Rhaglen Archwilio'r blaned Mawrth:[7]

  1. Chwilio am gyfaneddoldeb: darganfod amgylcheddau'r gorffennol oedd yn gallu cynnal bywyd microbaidd
  2. Chwilota am biolofnodion : chwilio am arwyddion o fywyd microbaidd posibl yn y gorffennol yn yr amgylcheddau cyfanheddol hynny, yn enwedig mewn mathau penodol o greigiau lle mae'n wybyddus eu bod yn cadw'r dystiolaeth dros amser
  3. Cadw samplau: casglu samplau o greigiau craidd a regolith ("pridd") a'u storio ar wyneb y blaned
  4. Paratoi ar gyfer ymweliad bodau dynol: profi cynhyrchu ocsigen o atmosffer Mawrth.

Delweddau golygu

Golwg panorama o man glanio Perseverance
 
Gorolwg o'r man glanio a'r cydrannau (18 Chwefror 2021)

Cyfeiriadau golygu

  1. "NASA EDGE: Mars 2020 Rollout". nasa.gov. NASA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-25. Cyrchwyd 19 Chwefror 2021.   Mae'r erthygl yn ymgorffori testun o'r ffynhonnell hwn, sydd yn y parth cyhoeddus.
  2. Landers, Rob (17 Chwefror 2021). "It's landing day! What you need to know about Perseverance Rover's landing on Mars". Florida Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Chwefror 2021. Cyrchwyd 19 Chwefror 2021.
  3. "Launch Windows". mars.nasa.gov. NASA. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2020.   Mae'r erthygl yn ymgorffori testun o'r ffynhonnell hwn, sydd yn y parth cyhoeddus.
  4. mars.nasa.gov. "Touchdown! NASA's Mars Perseverance Rover Safely Lands on Red Planet". NASA. Cyrchwyd 18 Chwefror 2021.   Mae'r erthygl yn ymgorffori testun o'r ffynhonnell hwn, sydd yn y parth cyhoeddus.
  5. Overbye, Dennis (19 Chwefror 2021). "Perseverance's Pictures From Mars Show NASA Rover's New Home - Scientists working on the mission are eagerly scrutinizing the first images sent back to Earth by the robotic explorer". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Chwefror 2021. Cyrchwyd 19 Chwefror 2021.
  6. "Mars Perseverance Landing Press Kit" (PDF). Jet Propulsion Laboratory. NASA. Cyrchwyd 17 Chwefror 2021.   Mae'r erthygl yn ymgorffori testun o'r ffynhonnell hwn, sydd yn y parth cyhoeddus.
  7. 7.0 7.1 "Overview". mars.nasa.gov. NASA. Cyrchwyd 6 Hydref 2020."Overview". mars.nasa.gov. NASA. Cyrchwyd 6 Hydref 2020.   Mae'r erthygl yn ymgorffori testun o'r ffynhonnell hwn, sydd yn y parth cyhoeddus.
  8. Nasa successfully flies small helicopter on Mars , BBC News, 19 Ebrill 2021.