Pete Wishart

gwleidydd a cherddwr o'r Alban

Gwleidydd o'r Alban yw Pete Wishart (ganwyd 9 Mawrth 1962) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Perth a Gogledd Swydd Perth; mae'r etholaeth yn siroedd Clackmannan a Perth a Kinross, yr Alban. Etholwyd Pete Wishart gyntat yn Etholiad Cyffredinol 2001 dros North Tayside, cyn cael ei ethol am y tro cyntaf i sedd newydd Perth a Gogledd Swydd Perth yn 2005. Mae Pete Wishart yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Pete Wishart AS
Pete Wishart


Deiliad
Cymryd y swydd
7 Mehefin 2001
Rhagflaenydd John Swinney

Geni (1962-03-09) 9 Mawrth 1962 (61 oed)
Dunfermline, Fife, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Perth a Gogledd Swydd Perth
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Coleg Addysg Moray House
Galwedigaeth Gwleidydd, cerddor
Gwefan http://www.snp.org/

Fe'i hyfforddwyd fel gweithiwr cymdeithasol a bu'n Gyfarwyddwr yr elusen Fast Forward sy'n hyrwyddo iechyd pobl ifanc. Dros y blynyddoedd, bu'n flaenllaw gyda chyrff sy'n gweithio yn erbyn cyffuriau niweidiol ac anghyfreithiol.

Am 15 mlynedd bu'n aelod o'r grŵp gwerin/roc Runrig a dywedir mai ef yw'r AS cyntaf sydd wedi ymddangos ar Top of the Pops.

Etholiad 2015 golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Pete Wishart 27,379 o bleidleisiau, sef 50.5% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +10.9 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9,641 pleidlais.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu