Peter Bailey Williams

cyfieithydd

Hynafiaethydd a chyfieithydd Cymreig oedd Peter Bailey (neu Bayley) Williams (Awst 1763 - 22 Tachwedd, 1836). Roedd yn fab i'r clerigwr Methodistaidd ac esboniwr Beiblaidd dylanwadol Peter Williams (1723-1796).

Peter Bailey Williams
Ganwyd1763 Edit this on Wikidata
Llandyfaelog Edit this on Wikidata
Bu farw22 Tachwedd 1836 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd Edit this on Wikidata
TadPeter Williams Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Fe'i penodwyd yn berson Llanrug, ger Caernarfon. Roedd yn gyfaill i'r bardd Dafydd Ddu Eryri a chododd gofgolofn iddo ym mynwent eglwys y plwyf ar ei farwolaeth yn 1822. Gwasanaethai yn ogystal ym mhlwyf Llanberis.[1]

Roedd gan Peter Bailey Williams ddiddordeb mawr yn hynafiaethau Cymru a chyfrannodd nifer o erthyglau ar y pwnc, yn Gymraeg a Saesneg, i gylchgronau'r dydd fel Y Geirgrawn, The Cambro-Briton a'r Cambrian Quarterly. Cyhoeddodd arweinlyfr Saesneg i'r hen Sir Gaernarfon yn 1821 a ddaeth yn boblogaidd iawn ac sy'n llawn o fanylion gan awdur a garai'r fro a'i hanes.[2]

Fel cyfieithydd cyhoeddodd gyfieithiadau o ddau o lyfrau Richard Baxter dan y teitlau Tragwyddol Orffwysfa'r Saint (1825) a Galwad ar yr Annychweledig (1825).[2]

Llawysgrifau golygu

Pasiwyd ei lawysgrifau i feddiand John Davies, Gwyneddon, argraffwr a golygydd sawl papur Cymraeg yn yr 19g.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922).
  2. 2.0 2.1 Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 hyd 1850 (Lerpwl, 1893).


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.