Peter Brook

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Llundain yn 1925

Cyfarwyddwr a chynhyrchydd theatr a chyfarwyddwr ffilm o Loegr oedd Peter Stephen Paul Brook (21 Mawrth 19252 Gorffennaf 2022) a fu'n nodedig am lwyfannu dramâu William Shakespeare yn ogystal â nifer o weithiau'r avant-garde.

Peter Brook
Peter Brook yn 2009.
GanwydPeter Stephen Paul Brook Edit this on Wikidata
21 Mawrth 1925 Edit this on Wikidata
Llundain, Chiswick Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 2022 Edit this on Wikidata
Paris, 15fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm, theatrolegydd, sgriptiwr, ysgrifennwr, hunangofiannydd, cineast, cyfarwyddwr opera, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Théâtre des Bouffes du Nord Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Shifting Point: Forty Years of Theatrical Exploration, 1946-1987 (Book) Edit this on Wikidata
PriodNatasha Parry Edit this on Wikidata
PlantIrina Brook, Simon Brook Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur de la Légion d'honneur‎, Commandeur des Arts et des Lettres‎, CBE, Gwobr Ryngwladol Ibsen, Praemium Imperiale, Gwobr Tony am y Cyfarwyddo Gorau mewn Drama, Gwobr Tony am y Cyfarwyddo Gorau mewn Drama, Gwobr Dan David, Gwobr Kyoto yn y Celfyddydau ac Athroniaeth, World Award of Humanism, Gwobr Tywysoges Asturias am y Celfyddydau, Medal y Llywydd, prix Giles, Padma Shri yn y celfyddydau, Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Uwch-swyddog Urdd Santiago de la Espada, Medal of the City of Paris, Cydymaith Anrhydeddus, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts, Gwobr Theatr Ewrop Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.newspeterbrook.com/ Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Chiswick, Llundain. Gwyddonwyr Iddewig o Latfia o'r enw Bryk oedd ei rieni; alltudiwyd ei dad o Ymerodraeth Rwsia ym 1914 am iddo arddel taliadau chwyldroadol.[1] Mynychodd Peter sawl ysgol, gan gynnwys yr ysgolion bonedd Westminster a Gresham, cyn iddo gael ei dderbyn i Brifysgol Rhydychen ym 1942.

Cyfarwyddodd Shakespeare yn gyntaf—y ddrama hanes King John—yn ystod ei dymor gyda'r Birmingham Repertory Theatre ym 1945, ac wedi hynny aeth i fan geni'r dramodydd, Stratford-upon-Avon, yn 21 oed. Yn y 1940au, efe a gyflwynodd dramâu avant-garde y Ffrancod Jean Cocteau a Jean-Paul Sartre i Loegr. Cyfarwyddodd sawl opera, gan gynnwys Salome gan Richard Strauss, i'r Tŷ Opera Brenhinol ym 1948–9. Cyfarwyddodd nifer rhagor o ddramâu Shakespeare, gan gynnwys Measure for Measure (1950), The Winter's Tale (1951), Titus Andronicus (1955), Hamlet (1955), The Tempest (1957), a King Lear (1962). Yn niwedd y 1950au daeth yn gyfarwydd â ffasiynau pryfoclyd y Cyfandir, yn enwedig y ffurf Théâtre de la Cruauté a arloeswyd gan Antonin Artaud, ac aeth Brook ati i lwyfannu gweithiau o'r fath, gan gynnwys The Screens gan Jean Genet a Marat/Sade gan Peter Weiss, ill dau ym 1964.[2] Brook a wnaeth sgriptio a chyfarwyddo'r addasiad ffilm ym 1963 o'r nofel Lord of the Flies gan William Golding. Ym 1968 cyhoeddodd Brook ei lyfr enwocaf, The Empty Space, yn gyflwyniad o'i syniadau am myd y theatr.

Symudodd i Baris, Ffrainc, ym 1970, ac yno sefydlodd y Ganolfan Ryngwladol er Ymchwil Theatr, mewn cydweithrediad â'r Théâtre des Bouffes du Nord. Wedi hynny, perfformiwyd y mwyafrif o'i gynyrchiadau ym Mharis, gan gynnwys Kaspar gan Peter Handke (1972), Timon of Athens (1974) ac Antony and Cleopatra (1978) gan Shakespeare, ac addasiad o'r Mahabharata a barai am naw awr (1985). Ysgrifennodd ragor o lyfrau am ei brofiadau a'i syniadau artistig, gan gynnwys The Shifting Point (1987), The Open Door (1993), a'r hunangofiant Threads of Time (1998). Derbyniodd wobr y Praemium Imperiale am theatr/ffilm ym 1997, a fe'i wnaed yn Gydymaith Anrhydedd ym 1998.[2] Bu farw Peter Brook ym Mharis yn 97 oed.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Peter Brook, visionary director known for his daring and visually striking stage productions – obituary", The Daily Telegraph (3 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Gorffennaf 2022.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Peter Brook. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Gorffennaf 2022.
  3. (Saesneg) "Peter Brook: British stage directing great dies aged 97", BBC (4 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Gorffennaf 2022.