Roedd Capten Peter Carpenter DSO, MC (6 Rhagfyr 1891 - 21 Mawrth 1971) yn archbeilot Cymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi credydu â 24 o fuddugoliaethau [1]

Peter Carpenter
Ganwyd6 Rhagfyr 1891 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 1971 Edit this on Wikidata
Golders Green Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhedfanwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes filwrol, Urdd Gwasanaeth Nodedig Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganed Peter Carpenter yng Nghaerdydd yn fab ac un o wyth o blant i Peter S. a Jane Carpenter. Peilot llongau oedd y tad a oedd yn berchen ar ei gwch ei hun ac yn gweithio ym Môr Hafren a dyfodfeydd o'r gorllewin i Gaerdydd. Mynychodd Carpenter yr Ysgol Genedlaethol yn Grangetown, Caerdydd, hyd 14 oed. Roedd yn seren rygbi'r undeb yn yr ysgol.

Ymddengys iddo weithio ar gyfer argraffydd yn union ar ôl gadael yr ysgol. Yn 17 oed, ymunodd â Spillers & Baker Company fel clerc; Tua 1910, daeth yn gynrychiolydd iddynt yn eu swyddfa yn Stockport

Gwasanaeth milwrol golygu

Ymunodd Carpenter â chatrawd Ffiwsilwyr Brenhinol yr Ysgolion Cyhoeddus ym 1915 ac fe'i neilltuwyd i'r 24 Bataliwn Hyfforddi fel hyfforddwr. Chwaraeodd rygbi dros ei dîm bataliwn. Trosglwyddodd i 19 Bataliwn a mynd i Ffrainc gyda nhw fel rhingyll ar 14 Tachwedd 1915. Fe wnaeth hefyd chwarae ar gyfer y tîm rygbi hwn gan dorri ei goes yn ystod gêm. Fe'i trosglwyddwyd wedyn i'r Sefydliad Cartref. Oddi yno, trosglwyddodd i'r Corfflu Hedfan Brenhinol,[2] gan ei benodi'n ail-is-gapten ar brawf dros dro ar 17 Mawrth 1917.[3]

Gwasanaeth hedfan golygu

Dechreuodd Carpenter ei yrfa hedfan gyda'r 5ed Sgwadron Wrth Gefn; bu ei hediad gyntaf ar 21 Mawrth 1917. Graddiodd yn beilot unigol ar 7 Ebrill ar ôl pum awr o gyfarwyddyd deuol. Symudodd ymlaen i hyfforddiant uwch ar ôl gwario saith awr 40 munud arall yn hedfan. Yn ystod y cyfnod hwn o hyfforddiant, gyda 34 Sgwadron Wrth Gefn, cafodd ddamwain ar 11 Mehefin ar ôl methiant yr injan. Ni chafodd anaf. Graddiodd o'i hyfforddiant uwch gydag 84 awr o amser hedfan, ac fe'i neilltuwyd i hedfan Sopwith Camel gyda'r 45 Sgwadron ar 14 Medi 1917.[4]

Ar 20 Medi ymosododd ar bedwar awyren Albatros D.Vs ger Ypres, Gwlad Belg, wedi tanio 30 rownd ar un ohonynt, gan ei lorio allan o'r frwydr. Ar ôl frwydr fer gyda'r tri arall, ymadawodd a'r frwydr. Wedi dinistrio pedwar gwrthwynebydd arall dros y saith wythnos nesaf daeth yn archbeilot (Saesneg Ace; un oedd wedi difrodi 5 awyren gelyn mewn brwydr) ar 15 Tachwedd 1917.[1]

Cafodd ei sgwadron ei drosglwyddo i'r Eidal ym mis Ionawr 1918 a bu gyrfa Carpenter fel archbeilot barhau i ffynnu.

Ar ddiwedd y Rhyfel roedd yn hawlio iddo ddifrodi 15 awyren y gelyn, cynorthwyo i ddifrodi 2 a danfon 7 allan o reolaeth.

Anrhydeddau golygu

Am ei wasanaeth derbyniodd Carpenter:

  • Y Groes Filwrol (MC)
  • Clesbyn i'r Groes Filwrol
  • Urdd Gwasanaeth Nodedig (DSO)
  • Y Fedal Efydd am Wroldeb Milwrol (gan lywodraeth yr Eidal).[9]

Gyrfa ôl ryfel golygu

Sefydlodd Carpenter gwmni llongau ar ôl y rhyfel, ond fe ddioddefodd y busnes yn y Dirwasgiad Mawr, a chymerodd swydd fel rheolwr cyffredinol yn swyddfa London Metropolitan Life Company o Efrog Newydd, a unwyd yn ddiweddarach gyda Legal & General. Arhosodd Carpenter gyda'r cwmni hyd iddo ymddeol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n gwasanaethu yn 20fed Bataliwn Gwarchodlu Cartref Swydd Middlesex. [2]

Bu farw Carpenter ar 21 Mawrth 1971.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 The Aerodrome Aces Wales Peter Carpenter adalwyd 23 Tachwedd 2018
  2. [Bernad, Denes & Franks, Norman (2003). Sopwith Camel Aces of World War I. London, UK: Osprey Publishing. ISBN 978-1-84176-534-1.
  3. The London Gazette 10 Ebrill 1917 Rhif 30012, Tudalen:3411 adalwyd 22 Tachwedd 2018
  4. Shores, Christopher F.; Franks, Norman & Guest, Russell (1990). Above the Trenches: A Complete Record of the Fighter Aces and Units of the British Empire Air Forces 1915–1920. London, UK: Grub Street. ISBN 0-948817-19-4.