Peter Fox

gwleidydd Cymreig ac aelod o'r Senedd

Gwleidydd Ceidwadol Seisnig yw Peter Alan Fox OBE (ganwyd 24 Rhagfyr 1961). Mae wedi bod yn arweinydd Cyngor Sir Sir Fynwy ers 2008. Ym mis Mai 2021 cafodd ei ethol yn Aelod o'r Senedd (AS) dros etholaeth Mynwy.

Cynghorydd
Peter Fox
OBE AS
Aelod o'r Senedd
dros Mynwy
Deiliad
Cychwyn y swydd
7 Mai 2021
Rhagflaenwyd ganNick Ramsay
Mwyafrif3,485
Manylion personol
Ganed (1961-12-24) 24 Rhagfyr 1961 (62 oed)[1]
Brackley, Swydd Northampton
DinesyddPrydeinig
Plaid gwleidyddolCeidwadwyr
PriodJoanne Fox
Plant4
CartrefPortskewett, Sir Fynwy
Alma materColeg Amaethyddol a Technegol Caerfyrddin
GwaithFfermwr
ProffesiwnGwleidydd

Cefndir golygu

Mae Fox yn cadw fferm yn Portskewett yn ne Sir Fynwy.[2] Mae'n gynghorydd sir Ceidwadol ar gyfer ward etholiadol Portskewett, ar ôl cael ei ethol gyntaf ym mis Mai 1999 a'i ailethol yn etholiadau dilynol 2004, 2008, 2012 a 2017.[3]

Daeth Fox yn ddirprwy arweinydd Cyngor Sir Fynwy[4] gan ddod yn arweinydd y cyngor wedi hynny ym mis Mai 2008 pan ddisodlodd y grŵp Ceidwadol yr arweinydd blaenorol, y Cynghorydd Andrew Crump.[5]

Dyfarnwyd OBE i Fox yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2017, am ei wasanaethau i Ranbarth Prifddinas Caerdydd. Roedd wedi bod yn aelod o Fwrdd Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ac wedi hynny yn is-gadeirydd Cabinet Cysgodol Rhanbarth Prifddinas Caerdydd. [6]

Etholiad i'r Senedd golygu

Safodd Fox fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholiadau Cynulliad Cymru 2007 yn etholaeth Dwyrain Casnewydd [4] er iddo fethu ag ennill.

Ym mis Mawrth 2021 dewiswyd Fox fel ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Mynwy, ar gyfer etholiadau Senedd 2021.[7] Roedd yr AS Ceidwadol ar y pryd, Nick Ramsay, wedi ei ddad-ddethol gan y blaid leol.[8] Enillodd Fox yr etholiad, ar 6 Mai 2021, gyda mwyafrif llaio 3,485.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Peter Fox bio". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-10. Cyrchwyd 2021-05-13.
  2. "Council happy with 'Carry On' BBC documentary". Abergavenny Chronicle. 2 February 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-13. Cyrchwyd 21 May 2019.
  3. "County Councillor Peter Fox". Monmouthshire County Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-10. Cyrchwyd 21 May 2019.
  4. 4.0 4.1 "Peter Fox". South Wales Argus. 18 April 2007. Cyrchwyd 21 May 2019.
  5. "'Stabbed in the back'". Free Press Series. 21 May 2008. Cyrchwyd 21 May 2019.
  6. "Monmouthshire residents from across the county rewarded in the Queen's New Year Honours". Chepstow Beacon. 4 January 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-07. Cyrchwyd 21 May 2019.
  7. "Monmouth Conservative candidate for Senedd Election Peter Fox". South Wales Argus. 12 March 2021. Cyrchwyd 7 May 2021.
  8. Ruth Mosalski; Sian Burkitt (7 May 2021). "Monmouth Conservative candidate for Senedd Election Peter Fox". Wales Online. Cyrchwyd 7 May 2021.