Peter Pan (cymeriad)

Cymeriad ffuglennol a grëwyd gan y nofelydd a'r dramodydd o'r Alban J. M. Barrie yw Peter Pan. Mae Peter Pan yn fachgen direidus a bywiog sy'n gallu hedfan a byth yn tyfu i fyny, ac mae'n treulio ei ieuenctid di-ddiwedd yn mynd ar anturiaethau ar ynys fytholegol o'r enw 'Neverland' yn arwain y Bechgyn Colledig ac yn cymdeithasu neu ymrafael gyda thylwyth teg, môr-ladron, môr-forwynion, Americaniaid brodorol, ac yn achlysurol blant o'r byd y tu hwnt i Neverland.

Peter Pan
Enghraifft o'r canlynolbod dynol ffuglennol, cymeriad llenyddol, fantasy film character, cymeriad teledu Edit this on Wikidata
CrëwrJ. M. Barrie Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1911 Edit this on Wikidata
Genreffantasi Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darlun cynnar o Peter Pan gan Oliver Herford, 1907

Mae Peter Pan wedi dod yn symbol o ddiniweidrwydd ieuenctid a dihangdod. Mae'n gymeriad mewn dau brif waith gan Barrie - y nofel The Little White Bird, a gyhoeddwyd yn 1902 a'r ddrama Peter Pan, or The Boy Who Wouldn't Grow Up, a lwyfannwyd am y tro cyntaf yn 1904. Cafodd y penodau o The Little White Bird a oedd yn cynnwys Peter Pan eu cyhoeddi ar wahan yn 1906 o dan y teitl Peter in Kensington Gardens, a chafodd y ddrama ei haddasu a'i datblygu i'w chyhoeddi fel nofel o dan y teitl Peter and Wendy yn 1911. Ers hynny, mae'r cymeriad wedi bod yn destun i nifer o weithiau mewn gwahanol gyfryngau, gan gynnwys ffilm animeiddiedig yn 1953, ffilm gydag actorion byw yn 2003, a chyfres deledu. 

Cyfeiriadau golygu