Peter Williams

clerigwr Methodistaidd, awdur, ac esboniwr Beiblaidd

Roedd Peter Williams (15 Ionawr 17238 Awst 1796) yn glerigwr Anglicanaidd a gefnogai'r Methodistiaid, yn awdur ac yn esboniwr Beiblaidd.[1]

Peter Williams
Ganwyd15 Ionawr 1723 Edit this on Wikidata
Llansadyrnin Edit this on Wikidata
Bu farw8 Awst 1796 Edit this on Wikidata
Llandyfaelog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethclerig, ysgrifennwr, emynydd Edit this on Wikidata
PlantPeter Bailey Williams, Eliezer Williams Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Williams yn Llansadyrnin, Sir Gaerfyrddin yn blentyn i Owen Williams ac Elizabeth (née Bailey) ei wraig. Roedd Elizabeth Williams yn wraig grefyddol a fu dan ddylanwad Griffith Jones, Llanddowror. Cafodd Williams ei ddysgu gan ei fam sut i ddarllen y Beibl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bu farw ei fam tua 1734 a'i dad y flwyddyn ganlynol. Wedi hynny cafodd Williams ei fagu gan frawd ei fam yng Nghaerfyrddin tra cafodd ei chwaer a'i frawd eu magu gan frawd i'w tad ym Mryste.[2] Ni welodd Peter ei chwaer na'i frawd wedi hynny. Trefnodd yr ewythr i Williams cael lle yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin, lle fu'n dysgu'r clasuron o dan y Parch Thomas Einion. Ym mis Ebrill 1743 bu'r arweinydd Methodistaidd Saesnig George Whitefield yn pregethu ar Heol Awst, Caerfyrddin. Er gwaethaf siars ei athro ar i ddisgyblion yr ysgol i beidio gwneud, aeth Williams i wrando arno a chafodd tröedigaeth o dan ei weinidogaeth.[3]

Gyrfa golygu

Wedi ymadael a'r ysgol tua 1743 aeth Williams i gadw ysgol ei hun yng Nghynwyl Elfed.[4] Fe wnaeth cais am urddau eglwysig, ond nid oedd yn disgwyl cael ei dderbyn gan ei fod wedi mynychu cyfarfod Methodist yn groes i orchymyn ei athro. Er hynny danfonodd Thomas Einion llythyr i'r esgob yn ei gymeradwyo ac yn cefnogi ei gais am urddau. Cafodd ei ordeinio yn ddiacon a'i benodi yn giwrad ar Eglwys Gymyn [5] ger Arberth ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Roedd Rheithor yr Eglwys, John Evans, dim ond yn ymweld â'r plwyf unwaith y flwyddyn i gasglu'r degwm, felly syrthiodd holl waith ymarferol y plwyf ar ysgwyddau'r ciwrad ifanc. Pitw oedd cyflog ciwrad a fu Williams yn ategu at ei incwm trwy gadw ysgol ddyddiol hefyd. Bu hefyd yn cynnal cymdeithasau gweddi a phrofiad mewn annedd dai yn y plwyf, gan ennyn beirniadaeth rhai o'i blwyfolion. Daeth yr anghydfod rhyngddo ef a'i blwyfolion i bendraw pan ddwrdiodd rhai o'r bobl ifanc oedd yn mynychu offeren y Sul am chware gêm o'r enw "pwysi" (gêm debyg i ddraffts) yn ystod y gwasanaeth. Anwybyddwyd ei gerydd gan yr ieuenctid a chefnogwyd eu hawl i ddiddanu eu hunain mewn gwasanaeth gan rai o'r oedolion (gan gynnwys aelodau teulu'r rheithor), cyhuddodd William y rhai oedd yn cefnogi'r bobl ifanc o sarhau Tŷ Duw. Gwnaed cwyn i'r rheithor am ei ymddygiad a throwyd Williams allan o'i guradiaeth.[4]

Rhoddwyd gwybod i Williams gan Griffith Jones, Llanddowror, bod rheithor Abertawe yn chwilio am gurad. Cafodd ei dderbyn i Abertawe, ond ni fu yno am yn hir cyn pechu rhai o fonheddwyr yr ardal gan bregethu ar y testun "Canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr Arglwydd; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn." (2 Cronicl 19:6) [6] Teimlai'r boneddigion oedd yn gwasanaethu fel Ynadon Heddwch a Barnwyr bod hyn yn ymosodiad personol arnynt hwy a'r ffordd roeddent yn gweinyddu'r gyfraith yn y llysoedd. O Abertawe aeth i Langrannog am gyfnod o ddeufis fel gweinidog llanw, lle fu'n boblogaidd ymysg ei blwyfolion. Ar ddiwedd ei gyfnod llanw ceisiodd y plwyfolion i ddwyn perswâd ar "berchennog" y fywoliaeth iddo barhau yno, ond roedd y perchennog eisoes wedi addo'r fywoliaeth i gyfaill iddo o Loegr.[3]

Ym 1747, wedi colli ei le yn Llangrannog cychwynnodd Williams ar daith i Dyddewi, i geisio perswadio'r esgob i'w ordeinio i'r Offeiriadaeth gyflawn a rhoi plwyf iddo. Ar y ffordd cyfarfu ag un o'r cynghorwyr (pregethwyr lleyg) y Methodistiaid ger Cas-lai ac aeth a fo i gyfarfod o bregethwyr Methodistaidd y cylch. Awgrymodd y cyfarfod bod Williams yn ymuno â hwy fel pregethwr teithiol yn lledaenu'r Efengyl o le i le, a dyna fu'n gwneud o 24 mlwydd oed hyd ei fod yn 70 mlwydd oed. Aeth ar ei daith gyntaf ym 1747 a 1748, gan bregethu yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Trefaldwyn, Sir Feirionnydd, siroedd arfordir y gogledd ac Ynys Môn. Cafodd derbyniad cymysg, gyda rhai yn gwrando'n astud arno ac yn cael tröedigaeth ac eraill yn ei regi a thaflu cerrig a baw anifeiliaid ato i geisio rhwystro ei neges. Yn Nhrefriw ymosododd dorf arno a'i daflu i mewn i Afon Conwy yng nghanol y gaeaf.[7] Wedi iddo bregethu yn Adwy'r Clawdd, Sir Ddinbych cafodd Williams a rhai o'i gefnogwyr eu dwyn o flaen Syr Watkin Williams Wynn, 3ydd Barwnig ac Ynad Heddwch (1692-1749). Cafodd Williams ddirwy o £20 a'i gefnogwyr dirwyon o 5 swllt yr un. Apeliodd Williams i'r llys a chafwyd bod Syr Watkin ar gam, bu'n rhaid i'r barwnig ad-dalu'r dirwyon a thalu holl gostau'r achosion.

Llenor ac esboniwr golygu

Roedd Peter Williams ymysg y Methodistiaid Cymreig cyntaf i werthfawrogi'r posibilrwydd o ddefnyddio'r argraffwasg fel modd i ledaenu neges y Methodistiaid ac aeth ati i ysgrifennu 32 o deitlau. Bu hefyd yn ymwneud a chyhoeddi'r Trysorfa Gwybodaeth, neu, Eurgrawn Cymraeg, (1770), y cyfnodolyn Cymraeg cyntaf. Un o'i gyhoeddiadau mwyaf gyfarwydd i Gymry heddiw oedd ei chyfieithiad o emyn Pantycelyn 'Nerth i fyned trwy'r anialwch (Arglwydd, arwain trwy'r anialwch,) [8] yn ei gasgliad o emynau Saesneg Hymns on Various Subjects (1771)

Guide me, O my great Redeemer,
pilgrim through this barren land;
I am weak, but you are mighty;
hold me with your powerful hand.
Bread of heaven, bread of heaven,
feed me now and evermore,
feed me now and evermore.

Emyn sydd yn boblogaidd iawn o hyd, nid yn unig mewn capeli, ond hefyd mewn gemau rygbi a thafarnau.

Ddau lyfr pwysicaf Williams o ran ei ddylanwad ar Fethodistiaid oedd ei Fynegair Ysgrythurol;[9] llyfr o brif eiriau'r Beibl yn nhrefn y wyddor gyda chyfeiriad at adnodau lle mae modd eu canfod; a'i Feibl esboniadol, argraffiad o'r Beibl gyda sylwadau ar bob un bennod. Cyhoeddwyd y rhifyn gyntaf ym 1770 a chafodd ei ail gyhoeddi 37 o weithiau. Er gwaethaf poblogrwydd Beibl Peter Williams bu'n achos rwyg rhwng Williams a'r Methodistiaid. O herwydd poblogrwydd y Beibl esboniadol gofynnodd un o weinidogion y Bedyddwyr, Dafydd Jones o Bont-y-pŵl, am gymorth Williams i greu fersiwn Cymraeg o Feibl Poced John Canne. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf ym 1790. Cyhuddodd Nathanial Rowland, mab Daniel Rowland, Williams o newid geiriad dau o'r adnodau er mwyn cefnogi'r heresi Sabelaidd. Sabeliaeth yw'r gred bod y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân yn dair nodwedd wahanol o Dduw, yn hytrach na thri pherson gwahanol wedi eu huno yn y Duwdod.[10] Yng Nghymdeithasfa'r De yn Llandeilo, ar 25 Mai 1791, cafodd Williams ei ysgymuno a'i wahardd rhag gwerthu'r Beibl newydd ymhlith y Methodistiaid. Cymeradwywyd y condemniad gan Gymdeithasfa'r Gogledd yn y Bala ar 8 Mehefin. Yn ei gofiant iddo yn yr ODNB mae'r diwinydd a hanesydd Y Parch Dr Tudur Jones yn dweud am yr anghydfod:[2]

A lack of clarity in his thinking still makes it difficult to ascertain the precise nature of the heresy for which he was excommunicated.

Mewn erthygl yn y Journal of Welsh Religious History mae'r Parchedig Dr D Ben Rees yn awgrymu bod yr anghydfod mwy i wneud efo sicrhau pwy fyddai'n dderbyn olyniaeth arweinyddiaeth y Methodistiaid wrth i'r genhedlaeth gyntaf o arweinwyr dechrau marw, na dim byd arall.[11] Mewn erthygl yn y Cylchgrawn Cristion nododd Y Parch Alun Page [12] bod yr un aneglurder parthed natur y Drindod i'w gweld yn emynau Pantycelyn ac ysgrifau Howel Harris.[7]

Ymysg cyhoeddiadau Cymraeg eraill Williams oedd:

  • Blodau i Blant (1758)
  • Mynegair Ysgrythurol, (1773)
  • Galwad gan wyr eglwysig (1781)
  • Cydymaith mewn Cystudd (1782)
  • Yr Hyfforddwr Cymreigaidd (1784)
  • Y Briodas Ysbrydol (1784)
  • Ymddygiad Cristianogol (1784)
  • Llythyr at Hen Gydymaith (1791)
  • Tafol i Bwyso Sosiniaeth (1791)
  • Dirgelwch Duwioldeb (1792)
  • Gwreiddyn y Mater (1794)

Teulu golygu

Ym 1748 priododd Williams a Mary, merch John Jenkins o'r Gors, cawsant chwech o blant gan gynnwys yr achydd Eliezer Williams a'r offeiriad Peter Bailey Williams. Mae'r cyn AC ac AS presennol Mynwy David T. C Davies ym mysg disgynyddion priodas Peter a Mary Williams.[13]

Marwolaeth golygu

Roedd Williams yn ddioddef o asthma a methiant y galon. Bu farw yn ei gartref, Gelli Lednais yn 73 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Llandyfaelog.

Cyfeiriadau golygu

  1. "WILLIAMS, PETER (1723 - 1796), clerigwr Methodistaidd, awdur, ac esboniwr Beiblaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-16.
  2. 2.0 2.1 Jones, Tudur. "Williams, Peter (1723–1796), biblical commentator". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/29534. Cyrchwyd 2020-10-16.
  3. 3.0 3.1 Jones, John Morgan a Morgan, William; Y Tadau Methodistaidd : eu llafur a'u llwyddiant; Abertawe(1895). Pennod XVIII- Peter Williams adalwyd 16 Hydref 2020
  4. 4.0 4.1 Evans, Joseph Biographical Dictionary of Ministers and Preachers of the Welsh Calvinistic Methodist Body or Presbyterians of Wales; from the start of the denomination to the close of the year 1850; Caernarfon (1907); tud 318. Erthygl: Peter Williams adalwyd 16 Hydref 2020
  5. GENUKI. "Genuki: Eglwys Cymyn, Carmarthenshire". www.genuki.org.uk. Cyrchwyd 2020-10-16.
  6. 2 Cronicl 19:6 (BWM) adalwyd 16 Hydref 2020
  7. 7.0 7.1 Cristion 21, Maw./Ebr. 1987 tud 1. ALLAN AR Y COMIN DIARDDEL PETER WILLIAMS GYNT gan Alun Page adalwyd 16 Hydref 2020
  8. Musica: Arglwydd, arwain trwy'r anialwch / Guide me, O Thou great Jehovah
  9. Roberts, Thomas Rowland; Eminent Welshmen; The Educational Publishing Company, Ltd.(1908) tud 583. Erthygl: Peter Williams adalwyd 20 Hydref 2020
  10. "Sabellianism | Christianity". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-10-16.
  11. Journal of Welsh Religious History; Vol. 4 New series, 2004; Rebels in the Established Church: Welsh Calvinistic Methodism in the Diocese of St Davids in the early nineteenth century gan D. Ben Rees tud 36 adalwyd 16 Hydref 2020
  12. "PAGE, LESLIE ALUN (1920-1990), gweinidog (A) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-17.
  13. David Davies and the Welsh Not adalwyd 16 Hydref 2020