Petronius Maximus

Roedd Petronius Maximus (c. 39622 Ebrill 455) yn Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin am ran o'r flwyddyn 455.

Petronius Maximus
Ganwydc. 396 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw455 Edit this on Wikidata
o llabyddiad Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddWestern Roman emperor, seneddwr Rhufeinig, Praefectus urbi, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadAnicius Probinus Edit this on Wikidata
PriodLicinia Eudoxia, Volusiana Edit this on Wikidata
PlantPalladius Edit this on Wikidata

Roedd Petronius o dras seneddol. Bu'n gweithredu fel praetor tua 411; yna fel tribunus et notarius tua 415 a Comes sacrarum largitionum (Cownt y Rhoddion Sanctaidd) rhwng 416 a 419. Bu'n gonswl yn 433 a 443.

Roedd gelyniaeth rhwng Petronius a Aëtius, cadfridog mwyaf amlwg yr ymerodraeth. Dywed Ioan o Antioch iddo ef a'r eunuch Heraclius berswadio'r ymerawdwr Valentinian III i ladd Aëtius. Yn ôl Ioan, Petronius hefyd oedd yn gyfrifol am berswadio Optila a Thranstila i lofruddio Valentinian III ei hun ar 16 Mawrth, 455.

Yn dilyn y llofruddiaeth, llwyddodd Petronius Maximus i gipio grym a gorfodi'r ymerodres Licinia Eudoxia i'w briodi. Wedi dod yn ymerawdwr, penododd Avitus fel Magister militum a'i yrru i Toulouse i geisio cefnogaeth y Fisigothiaid. Fodd bynnag, cyn iddo gyrraedd clyweyd fod Gaiseric, brenin y Fandaliaid, wedi cyrraedd yr Eidal. Creodd hyn ddychryn mawr yn Rhufain, a lladdwyd Maximus, un ai gan y dorf neu gan filwr o'r enw Ursus.

Dri diwrnod ar ôl marwolaeth Maximus, ar 22 Ebrill, cipiwyd dinas Rhufain gan Gaiseric.

Rhagflaenydd:
Valentinian III
Ymerodron Rhufain Olynydd:
Avitus