Bardd Norwyaidd yn yr iaith Ddano-Norwyeg a gweinidog Protestannaidd oedd Petter Dass (164717 Awst 1707) sydd yn nodedig fel y llenor pwysig cyntaf yn llenyddiaeth fodern Norwy.

Petter Dass
Portread o Petter Dass gan arlunydd anhysbys (1684).
Ganwydc. 1647 Edit this on Wikidata
Helgeland Edit this on Wikidata
Bu farw17 Awst 1707 Edit this on Wikidata
Alstahaug Municipality Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, offeiriad, bardd Edit this on Wikidata

Ganed yn Nord Herøy, ger Alstahaug, yn nheyrnas Denmarc–Norwy, yn fab i farsiandïwr Albanaidd a mam o Helgeland. Astudiodd ym Mhrifysgol Copenhagen a chafodd ei ordeinio yn yr Eglwys Lwtheraidd ym 1677. Aeth i weinidogaethu Alstahaug ym 1689, ac yno y bu am weddill ei oes.[1]

Dosbarthwyd ei farddoniaeth ar ffurf llawysgrifau ymhlith y ffermwyr, bugeiliaid, a physgotwyr yn ei blwyf, a byddent yn dwyn ei benillion i'w cof. Yr unig gerdd a gyhoeddwyd yn ystod ei oes oedd Den nordske dale-viise (1683). Cesglid nifer o'i emynau a cherddi sanctaidd wedi ei farwolaeth yn y gyfrol Bibelski viise-bog (1711). Mae'n debyg ei waith enwocaf yw Nordlands trompet, cerdd dopograffaidd am Nordland a gyfeirir at y werin bobl.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Petter Dass. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2021.