Philharmonig Efrog Newydd

Philharmonig Efrog Newydd (Saesneg: New York Philharmonic) yw'r gerddorfa symffoni hynaf yn yr Unol Daleithiau sy'n dal i berfformio, a ffurfiwyd yn 1842. Wedi'i lleoli yn Ninas Efrog Newydd, mae'r Philharmonig yn perfformio'r rhan fwyaf o'i chyngerddau yn Neuadd Avery Fisher ac ers blynyddoedd lawer yn mwynhau'r enw o fod yn un o gerddorfeydd symffoni gorau yn y byd. Mae'n bedwar deg mlynedd yn hŷn nag unrhyw gerddorfa gyffelyb yn America ac yn hŷn na phob cerddorfa Ewropeaidd namyn dwy. Perfformiodd am y 14,000fed tro yn Rhagfyr 2004, gan osod record byd-eang.

Leonard Bernstein gyda aelodau o Philharmonig Efrog Newydd mewn stiwdio teledu, 1959. Gyda chaniatad Bert Bial. Archifau Philharmonig Efrog Newydd.

Ei harweinydd cerddorfa enwocaf efallai oedd Leonard Bernstein.

Cyfarwyddwyr cerddoriaeth golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas Efrog Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.