Gwleidydd Ceidwadol Prydeinig yw Philip Anthony Hammond PC AS (ganwyd 4 Rhagfyr 1955)[1]. Roedd yn Ganghellor y Trysorlys rhwng Gorffennaf 2016 a Gorffennaf 2019.

Y Gwir Anrhydeddus
Philip Hammond
AS
Canghellor y Trysorlys
Yn ei swydd
13 Gorffennaf 2016 – 24 Gorffennaf 2019
Prif WeinidogTheresa May
Rhagflaenwyd ganGeorge Osborne
Dilynwyd ganSajid Javid
Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad
Yn ei swydd
15 Gorffennaf 2014 – 13 Gorffennaf 2016
Prif WeinidogDavid Cameron
Rhagflaenwyd ganWilliam Hague
Dilynwyd ganBoris Johnson
Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn
Yn ei swydd
14 Hydref 2011 – 15 Gorffennaf 2014
Prif WeinidogDavid Cameron
Rhagflaenwyd ganLiam Fox
Dilynwyd ganMichael Fallon
Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth
Yn ei swydd
11 Mai 2010 – 14 Hydref 2011
Prif WeinidogDavid Cameron
Rhagflaenwyd ganArglwydd Adonis
Dilynwyd ganJustine Greening
Prif Ysgrifennydd Cysgodol i'r Trysorlys
Yn ei swydd
2 Gorffennaf 2007 – 11 Mai 2010
ArweinyddDavid Cameron
Rhagflaenwyd ganTheresa Villiers
Dilynwyd ganLiam Byrne
Yn ei swydd
10 Mai 2005 – 6 Rhagfyr 2005
ArweinyddMichael Howard
Rhagflaenwyd ganGeorge Osborne
Dilynwyd ganTheresa Villiers
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau
Yn ei swydd
6 Rhagfyr 2005 – 2 Gorffennaf 2007
ArweinyddDavid Cameron
Rhagflaenwyd ganMalcolm Rifkind
Dilynwyd ganChris Grayling
Mwyafrif22,134 (44.2%)
Aelod Seneddol
dros Runnymede a Weybridge
Deiliad
Cychwyn y swydd
1 Mai 1997
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd yr etholaeth
Manylion personol
GanwydPhilip Anthony Hammond
(1955-12-04) 4 Rhagfyr 1955 (68 oed)
Epping, Essex, Lloegr
CenedligrwyddPrydeinig
Plaid wleidyddolCeidwadwyr
PriodSusan Williams-Walker
Plant3
Alma materColeg y Brifysgol, Rhydychen

Etholwyd Hammond i'r Senedd yn 1997 fel yr Aelod Seneddol dros Runnymede ac yn Weybridge.

Cafodd ei ddyrchafu i'r Cabinet Cysgodol gan David Cameron yn 2005 fel Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau, ac aros yn swydd hyd ad-drefnu 2007, pan ddaeth yn Brif Ysgrifennydd Cysgodol y Trysorlys. Ar ôl ffurfio y Llywodraeth Glymblaid ym Mai 2010, penodwyd ef yn Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a thyngodd lw i'r Cyfrin Gyngor. Wedi ymddiswyddiad Liam Fox oherwydd sgandal ym mis Hydref 2011, dyrchafwyd Hammond i Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ac, ym mis Gorffennaf 2014, daeth yn Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a Materion y Gymanwlad.[2][3] Wedi i Theresa May ddilyn Cameron fel Prif Weinidog ym mis Gorffennaf 2016, penodwyd Hammond yn Ganghellor y Trysorlys.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Hammond yn Epping, Essex, yn fab i beiriannydd sifil. Addysgwyd ef yn Ysgol Iau Brookfield, ac Ysgol Shenfield (nawr Ysgol Uwchradd Shenfield) yn Brentwood, Essex. Bu'n astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen, a graddiodd gydag gradd anrhydedd dosbarth cyntaf Baglor yn y Celfyddydau (BA).

Ymunodd Hammond â'r gweithgynhyrchwyr offer meddygol  Speywood Laboratories Ltd yn 1977, gan ddod yn gyfarwyddwr Speywood Medical Limited yn 1981.[4] Ym 1982, roedd ffatri gweithgynhyrchu electrod electrocardiograph awtomatig ymhlith ei llwyddiannau nodedig. Gadawodd ym 1983 ac, o 1984, gweithiodd fel cyfarwyddwr yn Castlemead Ltd.

O 1993 i 1995, roedd yn bartner yn CMA Consultants ac, ers 1994, cyfarwyddwr gyda Castlemead Homes.[5] Roedd ganddo lawer o ddiddordebau busnes, gan gynnwys adeiladu tai ac eiddo, cynhyrchu, gofal iechyd, ac olew a nwy. Ymgymerodd amryw o aseiniadau ymgynghori yn America Ladin ar gyfer y Banc y Byd yn Washington, D.C., a roedd yn ymgynghorydd i Lywodraeth Malawi o 1995 hyd ei ethol i'r Senedd.

Aelod o'r Senedd (1997–) golygu

Roedd Hammond yn gadeirydd Cymdeithas Ceidwadol Lewisham Dwyrain am saith mlynedd o 1989 a chystadlodd yn is-etholiad Newham North East 1994 yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Ron Leighton, gan golli i'r ymgeisydd Llafur newydd, Stephen Timms o 11,818 o bleidleisiau. Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin yn etholiad cyffredinol 1997 ar gyfer y sedd newydd Runnymede a Weybridge yn Surrey. Enillodd y sedd gyda mwyafrif o 9,875 ac mae wedi aros yn AS ers hynny. Gwnaeth ei araith gyntaf ar 17 Mehefin 1997.

Bywyd personol golygu

Priododd Hammond Susan Carolyn Williams-Walker ar 29 Mehefin 1991. Mae ganddynt ddwy ferch a mab,[6][7] ac yn byw yn Send, Surrey, gydag un arall yn y cartref yn Llundain. Amcangyfrif cyfoeth Hammond i fod tua £9 miliwn.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Philip Hammond MP". BBC- Democracy live. Cyrchwyd 13 October 2011.
  2. "William Hague quits as foreign secretary in cabinet reshuffle". BBC News. Cyrchwyd 14 July 2014.
  3. "Grande-Bretagne : l'eurosceptique Philip Hammond remplace Hague aux Affaires étrangères". euronews. Cyrchwyd 15 July 2014.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 2016-07-13.
  5. http://www.castlemead-ltd.co.uk Castlemead Homes
  6. "Conservative Party". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-07. Cyrchwyd 2016-07-13.
  7. BBC News: Vote 2001
  8. "The new ruling class". New Statesman. London. 1 Hydref 2009.