Ynys oddi ar arfordir de-orllewin Fietnam sy'n agos i dref Kien Giang ar y tir mawr yw Phú Quốc. Mae’n debyg bod trigiolion cyntaf yr ynys wedi mynd yno tua phymtheg canrif yn ôl. Credir mai pysgotwyr o benrhyn Malay a De Tsieina oeddynt. Erbyn hyn, mae poblogaeth o tua 100000 o bobl ar yr ynys. Ei phrif ffynonellau incwm yw’r diwydiant twristiaeth, yn ogystal ag allforio cnau cocos a rhwber. Mae maes awyr rhyngwladol bellach ar yr ynys a chanddo deithiau awyr ar yr awr i Ddinas Ho Chi Minh a nifer o gysylltiadau â meysydd awyr eraill yn Fietnam ac yn rhanbarth De-ddwyrain Asia.

Golygfa dros yr ynys.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: