Pianydd yw'r enw a roddir ar berson sy'n canu'r piano. Caiff ei ganu ym mhob genre o gerddoriaeth Ewropeaidd, gan gynnwys jazz, cerddoriaeth glasurol a'r felan. Mae'r gallu i ganu piano'n golygu y gall y pianydd hefyd chwarae'r allweddellau. Ystyrir Franz Liszt fel y pianydd gorau erioed gan lawer; disgrifiwyd ef gan Anton Rubinstein: "O'i gymharu â Liszt, plant yw'r holl bianyddion eraill."[1]

Yn aml, mae'r pianydd yn cyfeilio i unawdydd; pryd hyn, gelwir y person sy'n canu'r piano yn 'gyfeilydd'.

Pianyddion enwog golygu

Efallai mai'r Cymro enwocaf yw'r pianydd ifanc a byd enwog o Wrecsam Llŷr Williams. Ystyrir Vladimir Ashkenazy hefyd fel un o'r goreuon erioed, yn y byd clasurol. Yn y byd jazz, ceir Art Tatum, Duke Ellington, Thelonious Monk, Oscar Peterson a Bud Powell. Yn y byd pop, ceir: Richard Clayderman, Liberace a Victor Borge.


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyfieithiad o: "In comparison with Liszt, all other pianists are children".
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.