Offeryn cerdd draddodiadol yw pibgod. Llenwir y cod ag awyr (naill ai drwy anadlu neu fegin fraich) a chynhyrchir y sain drwy yrru'r aer o'r god gan greu dirgryniad mewn gorsen yn y bib neu'r pibau.

Pibgod
Enghraifft o'r canlynolmath o offeryn cerdd Edit this on Wikidata
Mathdouble reed instrument, single oboes with conical bore, sawl piben gydag un frwynen yr un Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae’r cyfeiriad cyntaf at y pibgod (sydd weithiau yn mynd yn ôl yr enwau cotbib, pibau cŵd neu pipa cwd) yn dyddio nôl i’r 12g. Mae’n debyg fod pibyddion wedi cystadlu yn yr Eisteddfod gyntaf i’w chofnodi – a drefnwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176. Tua’r un cyfnod, nododd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis, c.11461223) fod y Cymry’n chwarae’r delyn, y pibgod a’r crwth. Cyfeirir yn aml atynt ym marddoniaeth Cymru’r canol oesoedd (e.e. Iolo Goch yn sôn am ‘chwibanogl a chod’, neu bib a bag) tra bod cerddi dychanol gan feirdd a oedd hefyd yn delynorion yn ddirmygus o bibyddion a’u offerynnau.

Cyfansoddwyd nifer o alawon ar hyd y blynyddoedd gyda’r pibgod mewn golwg, gyda theitl yr alaw yn amlygu’r bwriad i’w berfformio ar yr offeryn, megis ‘Erddigan y Pibydd Coch’ a ‘Conset y Peipar Coch’. Mae’r rhain y dyddio o’r 17g. hyd at y 19g. Mae cryn dystiolaeth eiconograffig o bibgodau a phibyddion yng Nghymru hefyd, yn amrywio o gerfluniau sy’n dyddio o’r 11g. o bibyddion, gan gynnwys cyrnbeipiau dwbl, at ddarluniau o bibyddion ar gefn ceffylau mewn seremonïau priodasol yn y 19g. Yn ôl disgrifiadau o arferion pibyddion erbyn y 19g. dyma oedd y cyd-destun mwyaf cyffredin ar gyfer pibgodau. Mae’n debyg mai ucheldir anial Bannau Brycheiniog yn ne Cymru oedd cadarnle olaf y pibgod gyda enw dau chwaraewr yn goroesi o’r cyfnod – Evan Gethin ac Edward Gwern y Pebydd. Chwaraea’r ddau mewn priodasau yng Nglyn Nedd oddeutu 1860, neu o bosib ychydig yn hwyrach. Lleoliad arall tebygol oedd tref Caerfyrddin, lle clywid pibgodau yn fwyaf aml mewn priodasau mawreddog.

Ni wnaeth yr un pibgod cynhenid Gymreig oroesi o’r cyfnod. Naill ai fe wnaethant ddiflannu neu fe’i difrodwyd. Fe losgwyd neu gladdwyd cannoedd ohonynt yn dilyn y Diwygiad Methodistaidd, gan gyrraedd ei benllanw yn 1905. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth eiconograffig, disgrifiadau ysgrifennedig a’r gerddoriaeth sydd wedi goroesi mewn llawysgrifau yn gyson â’r math o fagbib oedd yn gyffredin yng ngogledd orllewin Ewrop (e.e. Llydaw a Galicia), megis y gaita, veuze, a’r binou. Roedd gan rai offerynnau un drôn, rhai ddau, ac eraill dri. Yn achos y ddau olaf roedd y dronau yn anghyfartal o ran hyd ac wedi eu tiwnio wythfed a phumed yn îs na’r nodyn ar y chweched bys, er ei bod yn bosibl fod rhai dronau wedi eu tiwnio i’r pumed bys fel a geir yn Llydaw, yn arbennig wrth ystyried y repertoire gyffredin o alawon sy’n perthyn i’r traddodiadau hyn. Nid oes digon o dystiolaeth ynglŷn â gwneuthuriad mewnol y pibau eu hunain i wybod os oes gorchwythu neu groesfyseddu yn bosibl. Mae gwneuthurwyr pibgodau cyfoes fel Jonathan Shorland yn creu pibau gyda gwahanol dyllfeddau ar gyfer defnydd gwahanol fel sy’n gyffredin ymysg gwneuthurwyr bagbibau ar y cyfandir. 

Adfywiad golygu

Ers dechrau'r 21g ac yn enwedig 2010au, cafwyd adfywiad o fath yn nefnydd o'r pibgod neu pibau Cymreig. Ceir nifer cynyddol o bobl yn canu'r pibau 'traddodiadol' Cymreig neu yn canu caneuon Cymreig ar bibgodau o wledydd eraill, yn fwyaf arbennig y Gaita o Galisia. Ymysg breinianwyr tir y maes yma mae pobl fel Ceri Rhys Matthews. Daeth yn fwy cyffredin ers 2010 i weld pibydd Cymreig yn canu tonau Cymreig wrth arwain gorymdeithiau. Un enghraifft o hyn yw Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth lle cafwyd amrywiaeth o bibyddion gan gynnwys Ceri Rhys Matthews, Geraint Roberts (Ystalyfera), Gwilym Bowen Rhys, a 'Bagad Sblot' sef dau o aelodau Avanc.

Llyfryddiaeth golygu

  • D. Barrington, ‘Some Account of Two Musical Instruments used in Wales’, Archaeologia, iii (1775), 30–34.
  • E. Jones, Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (Llundain, 1794).
  • E. Cave a J. Nichols (gol.), Gentleman’s Magazine and Historical Chronicle (Llundain, 1824).
  • H. Balfour, ‘The Old British ‘Pibcorn’ or ‘Hornpipe’ and its Affinities’, Journal of the Anthropological Institute, xx (1890), 142–54.
  • F. W. Galpin, Old English Instruments of Music (Llundain, 1910; [adolygwyd 1965 gan Thurston Dart]).
  • M. S. Defus, ‘The Pibgorn’, Welsh Music, iv/1 (1972–5), 5–10.
  • J. Shoreland, ‘The Pibgorn’, Taplas, rhif 17 (1986), 15.
  • T. Schuurmans a D. R. Saer, ‘The Bagpipe’, Taplas, rhif 21 (1987), 12–15.
  • P. Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu