Pibydd yr aber

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Pibydd aber)
Pibydd yr aber
Calidris canutus

, ,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Calidris[*]
Rhywogaeth: Calidris canutus
Enw deuenwol
Calidris canutus
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pibydd yr aber (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pibyddion yr aber) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Calidris canutus; yr enw Saesneg arno yw red knot. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. canutus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia.

Mae Pibydd yr aber yn nythu yng ngogledd Ewrop, gogledd Asia a gogledd Canada. Yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, gyda'r adar sy'n nythu yn Ewrop ac Asia yn symud cyn belled ag Affrica ac Awstralia a'r adar sy'n nythu yng Ngogledd America yn symud cyn belled a'r Ariannin. Adeiledir y nyth ar lawr, ac mae'n dodwy 3-4 wy.

Pibyddion yr aber yn y gaeaf
Calidris canutus

Mae'n aderyn canolig o ran maint, 23–26 cm o hyd a 47–53 cm ar draws yr adenydd. Yn y tymor nythu mae'n aderyn tarawiadol gyda lliw cochaidd ar y pen a'r fron a bol ychydig yn oleuach. Yn y gaeaf mae'n llwyd, tywyllach ar y cefn a goleuach ar y bol.

Yn y gaeaf mae'n bwydo o gwmpas glannau'r môr lle mae mwd ar gael, ac maent yn bwydo ar unrhyw greaduriaid bychain y gallant eu darganfod yn y mwd. Maent yn hel at ei gilydd yn heidiau mawr yr adeg yma o'r flwyddyn.

Mae Pibydd yr aber yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru yn y gaeaf ond nid ymddengys fod cofnod iddo erioed nythu yma.

Teulu golygu

Mae'r pibydd yr aber yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Gïach Affrica Gallinago nigripennis
 
Gïach Asia Limnodromus semipalmatus
 
Gïach Japan Gallinago hardwickii
 
Gïach Madagasgar Gallinago macrodactyla
 
Gïach Magellan Gallinago paraguaiae
 
Gïach brongoch Limnodromus griseus
 
Gïach cawraidd Gallinago undulata
 
Gïach coed Gallinago nemoricola
 
Gïach gylfinhir Limnodromus scolopaceus
 
Gïach mynydd y De Gallinago jamesoni
 
Gïach mynydd y Gogledd Gallinago stricklandii
 
Gïach rhesog Gallinago imperialis
 
Gïach unig Gallinago solitaria
 
Gïach y Paramo Gallinago nobilis
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Safonwyd yr enw Pibydd yr aber gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.