Rhodfa wedi'i chodi uwchben dŵr yw pier, a gynhelir gan bileri. Mae'n ymestyn o'r tir i'r môr neu i lyn. Mae adeiladwaith ysgafn, agored, y pier yn caniatau i'r dŵr oddi tano lifo yn rhwydd, tra bod adeiladwaith mwy solet cei neu sieti yn rhwystro'r llif ac felly'n fwy tebyg o siltio i fyny. Ceir sawl math o bier, o strwythurau ysgafn o bren i stwythurau mawr sy'n ymestyn hyd at filltir i mewn i'r môr. Yn yr Unol Daleithiau mae'r gair 'pier' yn gallu golygu 'doc' hefyd.

Pier y Garth, Bangor, o Fiwmaris

Mae piers wedi cael eu codi am sawl rheswm. Yng Ngogledd America ac Awstralia mae'r term 'pier' yn tueddu i olygu lle i ddadlwytho cargo o longau. Yn Ewrop, ar y llaw arall, mae piers yn golygu fel rheol y math o adeiladwaith haearn bwrw a godid ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g fel rhodfa bleser mewn trefi glan y môr.

Pier Llandudno

Ceir dros hanner cant o'r piers hyn yng ngwledydd Prydain heddiw, er bod sawl un arall wedi diflannu erbyn hyn. Yr enghraifft enwocaf mae'n debyg yw Pier Brighton yn ne Lloegr. Yn ninas Bangor ceir y pier ail hiraf yng Nghymru (y nawfed hiraf yng ngwledydd Prydain), sy'n ymestyn 1,500 troedfedd (472 medr) i Afon Menai yn ymyl Y Garth. Mae piers adnabyddus eraill yng Nghymru yn cynnwys rhai Llandudno, Bae Colwyn a'r Barri.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: