Athronydd o Ffrancwr yng nghyfnod boreol yr Oleuedigaeth oedd Pierre Bayle (18 Tachwedd 164728 Rhagfyr 1706) sy'n nodedig am ei waith Dictionnaire historique et critique (1697).

Pierre Bayle
Ganwyd18 Tachwedd 1647 Edit this on Wikidata
Carla-Bayle Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 1706 Edit this on Wikidata
o diciâu Edit this on Wikidata
Rotterdam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, ysgrifennwr, athro cadeiriol, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, diwinydd, hanesydd, geiriadurwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDictionnaire Historique et Critique Edit this on Wikidata
Mudiadskepticism Edit this on Wikidata
TadJean Bayle Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Pierre Bayle yn Carla-le-Comte, Teyrnas Ffrainc, ar 18 Tachwedd 1647, yn fab i weinidog o Galfinydd. Yn 1669 trodd Pierre yn Gatholig am gyfnod byr cyn iddo ddychwelyd at ffydd ei dad. Gweithiodd yn diwtor yn Academi Brotestannaidd Sedan cyn iddo dderbyn swydd yn addysgu athroniaeth yno o 1675 i 1681.

Symudodd i Weriniaeth yr Iseldiroedd yn 1681 i addysgu athroniaeth ac hanes yn Rotterdam. Cyhoeddodd Penseés diverses sur la comète (1682) yn ddienw, sy'n taflu amheuaeth ar ddysgeidiaeth yr Eglwys Gristnogol o fydysawd dyn-ganolog ac yn dilorni'r gred taw rhagargoelion ydy comedau. Cwestiynodd sawl traddodiad crefyddol yn gyhoeddus, gan ddigio Pierre Jurieau, ei hen gydathro o Sedan a oedd bellach yn weinidog Calfinaidd i gymuned y Walwniaid yn Rotterdam. Wedi i Bayle alw ar Gristnogion i oddef pob safbwynt crefyddol ac anghrefyddol, fe'i amheuwyd gan Jurieau o fod yn gêl-anffyddiwr. Gwaethygodd y rhwyg rhyngddynt yn sgil ymdrechion Bayle i gymodi llywodraeth gwrth-Galfinaidd Louis XIV, brenin Ffrainc. Ar gais Jurieau, collodd Bayle ei gadair athro yn Rotterdam yn 1693.

Am weddill ei oes, ymroddodd Bayle i gyflawni ei Dictionnaire historique et critique. Yn ôl yr enw, atodiad i wyddoniadur Louis Moréri, Le Grand Dictionaire historique (1674), ydyw. Mewn gwirionedd mae gwaith Bayle nid yn unig yn ymhelaethu ar destunau Moréri ac yn gwirio'i gamgymeriadau, ond hefyd yn cyflwyno erthyglau gwreiddiol niferus, yn ymdrin â chrefydd, athroniaeth ac hanes, ar batrwm unigryw er mynegiad deallusol yr awdur. Dyfyniadau, anecdotau, nodiadau, ac esboniadau cyfochrog sydd yn llenwi trwch y gwyddoniadur, a thrwy'r rhain mae Bayle yn dadlau'n erbyn y syniadaeth uniongred a gyflwynir yn yr erthyglau confensiynol. Cafodd y gwaith ei gondemnio gan yr awdurdodau eglwysig yn yr Iseldiroedd ac yn Ffrainc am iddo gofleidio sgeptigiaeth Byrrhonaidd ac Epiciwriaeth ac am ddyfynnu'r ysgrythur i gyfleu anllad a chabledd. Defnyddiwyd dull beirniadol Bayle yn ddiweddarach yn y 18g gan yr Encyclopédistes.

Bu farw Pierre Bayle yn Rotterdam ar 28 Rhagfyr 1706 yn 59 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Pierre Bayle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Tachwedd 2019.