Mudiad diwygiadol Cristnogol a gyfododd ymysg Protestaniaid yr Almaen yn niwedd yr 17g yw Pietistiaeth,[1] Pietyddiaeth[2] neu Dduwiolaeth (Almaeneg: Pietismus). Gelwir dilynwyr y blaid grefyddol hon yn Bietistiaid, Pietyddion, neu Dduwioliaid. Pwyslais y mudiad Pietistaidd oedd ar ffydd bersonol ac arferion byw Cristnogol, o'i gyferbynnu ag athrawiaeth a diwinyddiaeth ffurfiol a oedd yn ganolog i ddysgeidiaeth yr Eglwys Lutheraidd.

Mudiadau a dysgeidiaethau cyn-Bietistaidd golygu

Ymddangoswyd mudiadau Pietistaidd trwy gydol hanes y ffydd Gristnogol, ar achosion o ymwahaniad rhwng crefydd ffurfiol a phrofiadau'r dilynwyr. Erbyn dechrau'r 17g, roedd yr Eglwys Lutheraidd wedi creu cyfundrefn ysgolheigaidd newydd mewn gwrthwyneb i ddiwinyddiaeth yr Eglwys Gatholig a'r eglwysi Diwygiedig. Er llwyddiant deallusol y Diwygiad Protestannaidd, nid oedd yr arweinwyr Lutheraidd yn pryderu fawr am luniaeth ysbrydol y werin bobl, a dyrchafwyd ffurfiolaeth eglwysig ar draul y ffordd o fyw Gristnogol. O ganlyniad, ymdrechodd nifer o Lutheriaid Almaenig ganfod dulliau amgen i fynegi eu ffydd yn bersonol. Ymddangosodd mudiadau tebyg mewn gwledydd Protestannaidd eraill yn y cyfnod. Cyflwynwyd syniadau Piwritanaidd i'r cyfandir drwy gyfieithiadau o waith Richard Baxter, John Bunyan, a Saeson eraill. Datblygodd ffurf gynnar ar Bietistiaeth yn yr Iseldiroedd ymhlith Protestaniaid Seisnig alltud megis William Ames, a hynny'n groes i Arminiaeth. Yr enw cynnar ar y mudiad yn yr Almaen oedd Uniongrededd Ddiwygiedig Lutheraidd. Mynegir credoau'r Lutheriaid Uniongred yn arbennig yn ysgrifeniadau Johann Arndt. Dyma hefyd gyfnod o emynyddiaeth, llên ddefosiynol, a chyfriniaeth ymhlith Lutheriaid yr Almaen a gyfranodd yn ddirfawr at ddiwygiad ysbrydol yr eglwys, diwylliant duwiol a oedd yn atyniadol iawn i'r werin yn sgil difrod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48).[3]

Datblygiad yn yr Almaen golygu

Spener a'i ddisgyblion golygu

 
Philipp Spener, sefydlwr y Pietistiaid.

Gosodwyd Pietistiaeth ar droed gan y diwinydd Lutheraidd Philipp Spener (1635–1705), yr hwn, trwy y cymdeithasau dirgel a ffurfiwyd ganddo yn Frankfurt am Main, i'r diben o ddyrchafu gwir dduwioldeb, a gyffrôdd y Lutheriaid marwaidd o'u difaterwch, ac a gyfranodd ysbryd gweithgar a phenderfynol i'r rhai a foddlonent ar ofidio yn ddirgel o blegid cynnydd annuwioldeb. Dwysawyd effeithiau hynod y cymdeithasau hyn gan lyfr a gyhoeddwyd ganddo, yn dwyn y teitl Pia Desideria ("Dymuniadau Duwiol"; 1675), ac yn yr hwn y rhoddai ddisgrifiad trawiadol o anhrefn yr eglwysi, ac y cynigiai foddion priodol i'w hadferu. Boddheid lliaws o bersonau o egwyddorion cywir ac uniawn yn fawr gan weithrediadau ac ysgrifeniadau Spener, a chymeradwyid ei amcanion gan y rhan fwyaf a deimlent yn wirioneddol yn achos rhinwedd a chrefydd ymarferol, er y cedwid nifer mawr ohonynt rhag dangos eu cymeradwyaeth mewn modd cyhoeddus gan ofn i'w gynlluniau gael eu camarfer. Ac yn wir, felly y digwyddodd. Syrthiodd y moddion a gynigiwyd gan Spener i adferu yr eglwys o'i hanhrefn i ddwylaw pobl anfedrus, gweinyddwyd hwy yn annoeth; a thrwy hynny, gwnaethant fwy o niwed mewn llawer amgylchiad na'r anhrefn blaenorol. O ganlyniad, cyfododd achwyniadau yn erbyn y sefydliadau hyn, megis pe buasent, dan gochl o sancteiddrwydd neilltuol, yn lledaenu syniadau cyfeiliornus i'r bobl am grefydd, ac yn taenu hadau ac egwyddorion gwrthryfel a bradwriaeth ymysg y rhai hynny ag oedd o dueddiadau cynhyrfus a therfysglyd.

Mae'n debyg y buasai'r achwyniadau hyn, a'r terfysgoedd a achosasant, yn tawelu yn raddol, oni buasai i'r ymrysonau a gyfododd yn Leipzig yn 1689 ychwanegu tanwydd at y goelcerth. Dechreuodd nifer o athrawon athroniaeth, duwiol a dysgedig— ac yn enwedig Franckins, Schadius, a Paulus Antonius, disgyblion Spener, yr hwn ar y pryd oedd yn arolygwr eglwysig yn llys Sachsen —ystyried gyda difrifoldeb y diffygion a ffynnent yn y dull cyffredin o weinyddu addysg i ymgeiswyr am y weinidogaeth; a darbwyllwyd hwynt trwy yr adolygiad hwn ei bod yn ddyletswydd arnynt wneud pob ymdrech er cyflawni'r diffygion, ac er diwygio yr hyn oedd yn feius. Er mwyn hynny, ymgymerasant ag esbonio yn eu hathrofâu rai llyfrau penodol o'r Beibl, mewn trefn i gynhyrchu ysbryd duwioldeb ymarferol a chrefydd fywiol yn meddyliau eu gwrandawyr. Tynnodd newydd-deb y cynllun hwn sylw llaweroedd; gan hynny, byddai tyrfaoedd yn mynd i wrandaw y darlithiau hyn, ac yr oedd eu heffeithiau i'w gweld yn amlwg yn mywydau ac ymddiddanion lliaws o bersonau. Gwneid llawer o bethau, pa fodd bynnag, yn ôl fel y dywedir, yn y colegau Beiblaidd hyn, fel eu gelwid, ag oeddynt yn groes i arferiad, ac yn mhell o fod yn gyson â doethineb; er y gallasai barnwyr diduedd a chyflawn, fe allai, edrych arnynt fel pethau ag y gallesid eu goddef. Achosodd hyn gynnwrf a digofaint, a dygwyd y mater o'r diwedd i brawf cyhoeddus, yn mha un y mae yn wir y rhyddhawyd y dynion dysgedig a duwiol a grybwyllwyd oddi wrth y cyfeiliornadau a ddygwyd yn eu herbyn; ond ar yr un pryd, gwaharddwyd iddynt gario yn mlaen eu cynllun o gyfrannu addysg grefyddol. Yn ystod yr helbulon a'r ymraniadau hyn y dyfeisiwyd yr enw Pietistiaid, fel enw o ddiystyrwch. Cymhwyswyd ef ar y cyntaf at y bobl a fynychent y colegau Beiblaidd, ac a ymddygent yn gyfaddas i'r addysgiadau crefyddol a dderbynient yn y sefydliadau hynny. Aethpwyd drachefn i gymhwyso y gair mewn ystyr ehangach, nes yr aeth yn hollol amhriodol.

Nid oedd yr ymryson hwn mewn un modd yn gyfyngedig i Leipzig, ond ymdaenodd yn gyflym trwy yr holl eglwysi Lutheraidd yng ngwahanol daleithiau a theyrnasoedd Ewrop. O'r pryd hyn allan, yn yr holl ddinasoedd, y trefi, a'r pentrefi, yn mha rai y proffesid Lutheriaeth, cyfodai personau i fyny yn ddisymwth, yn feibion a merched, y rhai a ddatganent eu bod wedi eu galw trwy gymhelliad dwyfol i ddiwreiddio pechod, i adferu crefydd i'w phurdeb cyntefig, a'i lledaenu dros y byd, ac i lywodraethu eglwys Crist trwy reolau doethach. Ffurfiwyd amryw gymdeithasau crefyddol mewn gwahanol leoedd, y rhai, er y gwahaniaethent mewn rhai pethau, ac er nas llywodraethid hwynt oll gyda'r un gofal a doethineb, oeddynt wedi eu bwriadu i ddwyn ymlaen yr un amcan cyffredinol. Yn y cyf- amser, llenwid y gwyr eglwysig, a swyddogion y llywodraeth, ag ofn a dychryn, trwy y gweithrediadau anghyffredin hyn. Cwblhawyd yr ofnau hyn trwy i'r Pietistiaid dderbyn i'w plith nifer o benboethiaid, y rhai a raghysbysent ddinistr agosaol Babel (drwy yr hyn y golygent yr Eglwys Lutheraidd), ac a ddychrynent y bobl â gweledigaethau ffugiol; honnent eu bod yn meddu awdurdod ddwyfol proffwydi, tywyllent wirioneddau aruchel crefydd trwy fath o gymysgiaith o'u dyfeisiad eu hunain, ac adnewyddent athrawiaethau ag oedd wedi eu condemnio gan yr eglwys er ys llawer o amser cyn hynny. Cyfododd yr ymddadleuon chwerwaf yn yr holl eglwysi Lutheraidd o ganlyniad i hyn, ac ymosodai personau na wahaniaethent oddi wrth ei gilydd ond yn unig mewn pethau dibwys, y naill ar y llall gyda'r atgasrwydd pennaf; ac o'r diwedd, gwnaethpwyd deddfau llymion mewn amryw wledydd yn erbyn y Pietistiaid.

Carfan Halle golygu

Roedd y bobl hyn yn ddau ddosbarth. Mynnai un blaid ddwyn diwygiad crefyddol yn mlaen heb wneud un cyfnewidiad yn athrawiaethau, disgyblaeth, na ffurflywodraeth sefydledig yr Eglwys Lutheraidd. Haerai y blaid arall fod yn amhosibl dwyn ymlaen ddiwygiad gwirioneddol ymhlith y Lutheriaid heb wneud cyfnewidiadau mawrion yn eu hathrawiaethau, a heb newid holl ffurf eu disgyblaeth eglwysig. Blaenor y blaid gyntaf oedd y duwiol a'r dysgedig Spener; yr hwn, yn y flwyddyn 1691, a symudodd o Dresden i Ferlin, a syniadau yr hwn a fabwysiadwyd gan athrawon athrofa newydd Halle; ac yn neilltuol gan Franckins a Paulus Antonius, y rhai a wahoddasid i Halle o Leipzig, lle y dechreuwyd eu drwgdybio o Bietistiaeth. Er yr edrychid yn ffafriol ar amcanion a dibenion y bobl dda hyn yn lied gyffredinol, eto barnai amryw ddiwinyddion enwog, ac yn neilltuol gweinidogion ac athrawon Wittenberg, eu bod wedi mabwysiadu amryw osodiadau, a'u bod yn defnyddio rhai mesurau, ag oeddynt yn niweidiol i'r gwirionedd ac i'r eglwys. Gan hynny, edrychent arnynt eu hunain megis dan rwymau i wrth- wynebu Spener yn gyhoeddus, yr hyn a wnaethant yn y flwyddyn 1695; ac wedi hynny, gwrthwynebasant ei ddisgyblion a'i ymlynwyr.

Enwadau a chymunedau ar wasgar golygu

Yr Eglwys Forafaidd golygu

Sefydlwyd yr Eglwys Forafaidd gan y Cownt Nikolaus Ludwig von Zinzendorf (1700–60) ar ei ystâd yn Sachsen.

Cymunedau'r Pietistiaid yn yr Amerig golygu

Daeth Pietistiaeth i'r Amerig yn ystod yr oes drefedigaethol, a chafodd yr eglwysi Lutheraidd a Morafaidd ddylanwad ar nifer o enwadau eraill. Ymhlith y ffigurau hyglod o Halle oedd Heinrich Melchior Mühlenberg (1711–87), yr hwn a ddanfonwyd yn gennad i Bensylfania yn 1742 i gydlynu'r eglwysi Lutheraidd yng Ngogledd America ac i wrthweithio ymdrechion Nikolaus Ludwig i broselytio ar ran y Morafiaid. Llwyddodd Mühlenberg i drefnu'r plwyfi Lutheraidd, ac am hynny fe'i gelwir yn dad yr Eglwys Lutheraidd Americanaidd.[4]

Yn ogystal, dylanwadwyd ar fudiadau crefyddol gan Bietistiaeth Radicalaidd, a oedd yn arddel gwahaniaethu oddi ar eglwysi gwladwriaethol. Yn eu plith oedd y Bedyddwyr Almaenig (Schwarzenauer Brüder), a gyraeddasant Bensylfania yn 1719; Cymuned Ephrata a holltodd oddi ar y Bedyddwyr Almaenig dan arweiniad Conrad Beissel yn 1732; Cymdeithas y Cytgord, a symudasant i'r Unol Daleithiau o'r Almaen yn 1785; Ymneilltuwyr Soar, a sefydlasant pentref Zoar, Ohio, yn 1817; a chymundodau Amana Colonies yn nhalaith Iowa, a barodd o ganol y 19g hyd at y Dirwasgiad Mawr.[4]

Dylanwad ar draws y Gristionogaeth golygu

Dylanwadwyd yn gryf ar John Wesley, sefydlwr y Methodistiaid, gan y Morafiaid, a thrwy'r cysylltiadau hynny ymgorfforodd elfennau o Bietistiaeth yn ei fudiad, gan gynnwys pwyslais ar ras cadwedigol. Gwelir ysbrydoliaeth y Pietistiaid hefyd mewn diwinyddiaeth fugeiliol, cenhadaeth, a ffyrdd o addoli.

Bu Pietistiaeth ar ei hanterth yn hanner cyntaf y 18g. Er gwaethaf y gostyngiad yn niferoedd ei dilynwyr ers hynny, mae'r mudiad yn goroesi hyd yr 21g yn yr Almaen ac ar ffurf yr Eglwys Forafaidd. Yn ogystal, cafwyd effeithiau hollbwysig ar Brotestaniaeth Efengylaidd a mudiadau diwygiadol y 19g a'r 20g gan gredoau'r Pietistiaid.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Pietistiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Awst 2019.
  2.  Pietyddiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Awst 2019.
  3. (Saesneg) Pietism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Awst 2019.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Donald F. Durnbaugh a William W. Sweet, "Pietism" yn Dictionary of American History (Gale, 2003). Adalwyd ar 21 Awst 2019.

Darllen pellach golygu

  • Dale W. Brown, Understanding Pietism (Grand Rapids, Michigan: Eerdmans, 1978).
  • Peter C. Erb (gol.), Pietists: Selected Writings (Llundain: Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol, 1983).
  • Mary Fulbrook, Piety and Politics: Religion and the Rise of Absolutism in England, Württemberg, and Prussia (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1983).
  • Richard L. Gawthrop, Pietism and the Making of Eighteenth-Century Prussia (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1993).
  • Douglas H. Shantz, A Companion to German Pietism, 1660-1800 (Leiden: Brill, 2015).
  • F. Ernest Stoeffler, German Pietism During the Eighteenth Century (Leiden: Brill, 1973).
  • F. Ernest Stoeffler (gol.), Continental Pietism and Early American Christianity (Grand Rapids, Michigan: Eerdmans, 1976).
  • Jonathan Strom, Hartmut Lehmann, a James Van Horn Melton (goln), Pietism in Germany and North America, 1680-1820 (Farnham, Surrey: Ashgate, 2009).
  • Johannes Wallmann, Philip Jakob Spener und die Anfänge des Pietismus (Tübingen: J. C. B. Mohr, 1986).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.