Clwyf poenus a geir o sgorpion, arachnid sy'n pigo â phigwr cau yn ei gynffon, yw pigiad sgorpion. Mae pigiadau nifer o rywogaethau dim ond ychydig yn wenwynig, ond mae rhai, megis sgorpion rhisgl Arizona, yn gallu achosi anaf angheuol, yn enwedig mewn plant. Mae pigiad gan y rhywogaeth hon yn achosi poen yn syth, ac o fewn oriau fferdod, cyfog, sbasm y cyhyrau, dyspnoea, a chonfylsiwn. Mae gwrthwenwyn i bigiad sgorpion rhisgl Arizona ar gael o Brifysgol Talaith Arizona yn unig.

Ffynhonnell golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato